â â â Penwisg Merch
1â â â Heddiw y gwelaf, Ddafydd,
2â â â Hawdd fyd i heddiw a fydd,
3â â â Rhwng gwallt a'm gwylltiai yn chwyrn
4â â â A dwyael, merch i dëyrn
5â â â Rhoi gwerth canpunt ar untal
6â â â O gaeau main ac aur mâl.
7â â â Weldyna weled anawdd!
8â â â Wi o'r tâl dan we aur tawdd!
9â â â Myn Croes Naid o fro'r Eidial
10â â â A gwaed dyn, gwiw yw y tâl.
11â â â Owmal y wlad, leiddiad Lyr,
12â â â Yw penwisg fy nyn poenwyr
13â â â Ac asur ar gyswllt ia
14â â â Yn gwasgu, combr yw'r gwisgiad
15â â â Hoen Fflur yw'r dyn a'm curia,
16â â â Hual ar dâl o aur da.
17â â â Mau lwyr gwyn, Maelor gannwyll,
18â â â Mae ar ei thâl, mawr ei thwyll
19â â â Fflwch ractal, mau benial boen,
20â â â Fflwring aur, ffloyw reng oroen.
21â â â Da lun ar ddail fflwr-dy-lis
22â â â Ac aur bwrw o gaer Baris.
23â â â Gem yw ar y ddau gymwd,
24â â â Ac aur Ffrainc, unne geirw ffrwd,
25â â â Awr loywbrim, eiry oleubryd,
26â â â Anrhydedd beilch wragedd byd.
27â â â Gwae fi, Fab Mair ddiwair dda
28â â â Ei theced, ac na thycia!