Penwisg Merch
Heddiw y gwelaf, o Ddafydd,
- bendith fydd i heddiw -
roi gwerth canpunt
4 o dlysau meini ac aur pur
ar un talcen rhwng gwallt a'm cynhyrfai'n ffyrnig
a dwyael, merch i arglwydd.
Dyna weld anodd!
8 Am dalcen gwych dan blethiad o aur pur!
Myn y Groes Naid o wlad yr Eidal
a gwaed dyn, da yw'r talcen.
Enamel y wlad yw penwisg
12 fy merch sy'n poenydio dynion, lladdwr fel Llyr,
a maen asur yn gwasgu
cambrig ar frig y talcen yw'r wisg.
Un o liw Fflur yw'r ferch sy'n peri imi nychu,
16 llyffethair o aur da ar dalcen.
Fy nghwyn gyfan, cannwyll Maelor,
mae ar ei thalcen (mawr yw ei thwyll)
addurn pen helaeth (penwisg sy'n achosi poen imi),
20 fflorin aur, rhes ddisglair brydferth.
Ffurf dda ar ddail fleur-de-lis
ac aur tawdd o ddinas Paris.
Gem yw ar y ddau gwmwd,
24 ac aur o Ffrainc, o'r un lliw ag ewyn nant,
awr y wawr loyw, gwedd olau eira,
anrhydedd gwragedd beilchion y byd.
Gwae fi, o Fab Mair bur a da,
28 mor deg yw hi, ac na ddaw dim lles ohoni!