Penwisg Merch | |
Heddiw y gwelaf, o Ddafydd, | |
– bendith fydd i heddiw – | |
roi gwerth canpunt | |
4 | o dlysau meini ac aur pur |
ar un talcen rhwng gwallt a'm cynhyrfai'n ffyrnig | |
a dwyael, merch i arglwydd. | |
Dyna weld anodd! | |
8 | Am dalcen gwych dan blethiad o aur pur! |
Myn y Groes Naid o wlad yr Eidal | |
a gwaed dyn, da yw'r talcen. | |
Enamel y wlad yw penwisg | |
12 | fy merch sy'n poenydio dynion, lladdwr fel Llŷr, |
a maen asur yn gwasgu | |
cambrig ar frig y talcen yw'r wisg. | |
Un o liw Fflur yw'r ferch sy'n peri imi nychu, | |
16 | llyffethair o aur da ar dalcen. |
Fy nghwyn gyfan, cannwyll Maelor, | |
mae ar ei thalcen (mawr yw ei thwyll) | |
addurn pen helaeth (penwisg sy'n achosi poen imi), | |
20 | fflorin aur, rhes ddisglair brydferth. |
Ffurf dda ar ddail fleur-de-lis | |
ac aur tawdd o ddinas Paris. | |
Gem yw ar y ddau gwmwd, | |
24 | ac aur o Ffrainc, o'r un lliw ag ewyn nant, |
awr y wawr loyw, gwedd olau eira, | |
anrhydedd gwragedd beilchion y byd. | |
Gwae fi, o Fab Mair bur a da, | |
28 | mor deg yw hi, ac na ddaw dim lles ohoni! |