riain vain rry anvynych
yth welaf ddywiwaf wych
Ni dderbyniwyd y cwpled yn nhestun golygedig GLlGMH am ei fod yn nhestun
GDG, ond mewn gwirionedd fe ymddengys yn fwy priodol yng nghyd-destun cerdd
Llywelyn Goch nag yn hon, lle na chyferchir y ferch yn uniongyrchol heblaw yn y
cwpled hwn. Mae presenoldeb y cwpled yn Pen 54 yn berthnasol i gwestiwn
awduraeth y gerdd. Ar yr olwg gyntaf mae tystiolaeth y llawysgrifau dros ddilysrwydd y
cywydd hwn yn gryf, gan ei fod wedi'i briodoli i Ddafydd ap Gwilym mewn
llawysgrif o chwarter olaf y bymthegfed ganrif yn ogystal ag yn LlWM. Ond mae
dau reswm dros amau ei ddilysrwydd. Un yw bod testun Pen 54 yn cynnwys cwpled
sydd hefyd i'w gael mewn rhai fersiynau o 'Farwnad Lleucu Llwyd' gan Lywelyn
Goch ap Meurig Hen (gw. uchod). Ac mae enw Llywelyn Goch ynghlwm wrth yr ail
reswm hefyd, sef y ffaith bod y cywydd hwn i'w gael yn Pen 49 a llawysgrifau
Llywelyn Siôn (ac felly yn LlWM) yn nesaf at 'Y ferch lygad ruddell
fain', cywydd sydd, yn ôl tystiolaeth gynharach Pen 57, yn waith Llywelyn
Goch (GLlGMH cerdd 11). Gellid meddwl, felly, fod y ddau gywydd yn cylchredeg
gyda'i gilydd. Mae'n amlwg bod tuedd i gambriodoli cerddi Llywelyn Goch i
Ddafydd ap Gwilym, oherwydd mae 'Y Penlöyn' (GLlGMH 9) wrth enw Dafydd ym
mhob copi. Mae sôn am 'wraig Ddafydd' yn 'Y Penlöyn', ac yn achos y
gerdd hon byddai'r enw Dafydd yn y llinell gyntaf yn ddigon o reswm dros ei
chambriodoli i Ddafydd ap Gwilym. Ac efallai nad yw tystiolaeth y llawysgrifau
mor gryf ag yr ymddengys fodd bynnag, oherwydd o Forgannwg y tarddai'r ddau
fersiwn, ac felly gallent fod yn gynnyrch traddodiad lleol cyfeiliornus.
(Sylwer mai Maelor yn y gogledd-ddwyrain oedd cynefin y ferch; serch hynny, ni
chadwyd y gerdd yn nhraddodiad y gogledd.) Ac mae cerddi annilys yn cael eu
priodoli i Ddafydd yn y ddau gasgliad.Anodd iawn yw gwahaniaethu rhwng Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch o ran
arddull eu cerddi serch, gan fod prif nodweddion y ddau yn debyg iawn i'w
gilydd. Mae pethau fel y frawddeg estynedig yn y llinellau cyntaf, geiriau
cyfansawdd a chynganeddion anghyflawn yn ddigon cyffredin yng ngwaith y ddau,
ac nid ydynt yn gymorth i bennu awduraeth. Mae'n wir bod yma rai geiriau prin
megis owmal, fflwch, fflwring, a
prim, y ceir enghreifftiau eraill ohonynt yng ngwaith Dafydd ac nas ceir
gan Lywelyn, ond gan fod cyn lleied o ganu serch Llywelyn wedi goroesi mae
cymhariaeth o'r fath yn gamarweiniol. Rhieingerdd yw hon yn y bôn, yn yr ystyr bod y mawl i ferch
fonheddig, sef merch neu wraig y Dafydd a gyferchir yn y llinell gyntaf, llawn
mor bwysig â'r elfen o serch sydd ynddi. Nid yw hynny ynddo'i hun yn
ddadl yn erbyn awduraeth Dafydd ap Gwilym, gan fod yr un cyfuniad i'w weld yn
ei gywydd cyntaf i Ddyddgu, cerdd 45, ond ar y cyfan tueddu i wrthwynebu
arwyddion cyfoeth o'r fath a wnâi Dafydd, fel yn 'Merch yn Ymbincio' (GDG
49), ac 'Yr Het Fedw' (GDG 59) sy'n benwisg amgenach na gemwaith. Nid oes
ychwaith unrhyw enghraifft ddigamsyniol yma o'i ddychymyg arbennig wrth
ddyfalu'r benwisg. Mae'n wir bod fflwring yn dwyn i
gof y defnydd o'r un gair yn ddelwedd am y dail yn 'Mis Mai' (GDG 23.13), ond
yn yr achos hwn mae'r ddelwedd yn llawer mwy amlwg fel disgrifiad o
emwaith.Nid yw'r un o'r dadleuon hyn yn derfynol, ac yn sicr ni ellir profi nad
gwaith Dafydd ap Gwilym mo'r gerdd hon. Eto i gyd, mae digon o reswm i amau
priodoliad y llawysgrifau, a rhaid i awduraeth y gerdd aros yn gwestiwn
agored.Nid yw cynganeddiad y gerdd yn cynnig cymorth i benderfynu'r awduraeth,
ond mae'n werth sylwi bod cyfartaledd y gynghanedd sain braidd yn isel, sef 5
llinell o 28 (18%). Y cynganeddion cytseiniol sydd amlycaf yma, gyda 9 llinell
o'r groes (32%) a 9 llinell o'r draws (32%); ceir hefyd 4 llinell o lusg (14%)
ac un gynghanedd braidd gyffwrdd (4%)(ll. 3).1. Ddafydd Yn ôl Parry, GDG 479,
mae'r enw hwn mewn cyfosodiad â'r goddrych a gyfleir yn y ferf
gwelaf, a'r ystyr felly yw, 'heddiw y gwelaf fi,
Ddafydd . . .'. Ceir enghraifft arall o'r gystrawen honno gan Ddafydd Epynt,
GDEp 19.51. Ond mae'n debycach mai cyfarchiad i dad y ferch dan sylw yw hwn,
fel yr awgrymodd Saunders Lewis, MC 52.2. Mae cyfieithiad Gwyn Thomas, DGHP 92, 'An easy time I'll
have today', yn seiliedig ar y darlleniad Hawdd fyd
im, ac mewn gwirionedd mae'r synnwyr yn groes i weddill y gerdd. Ond gall
hawdd fyd fod yn ffordd o gyfleu bendith, gw. GPC 1827
a chymh. GDG 5.9-10, ac yn enwedig 'Hawddamawr . . . i heddiw fyth'
(133.1-2).3. Ceir cynghanedd braidd gyffwrdd yn y llinell hon.6. caeau Diwygiad yw hwn. Ceir
gayrav yn Pen 54, garreu yn
Pen 49, a gywrain yn llsgrau Llywelyn Siôn.
Dilynwyd Pen 54 yn GDG, gaerau, ond nid yw'r un o'r tri
darlleniad yn foddhaol yng nghyd-destun penwisg, ac edrychant fel tri ymgais
gwahanol i gywiro'r gynghanedd trwy ateb yr r
berfeddgoll yn ail hanner y llinell. Gan fod Pen 49 a llsgrau Llywelyn
Siôn yn gwahaniaethu yma, fe ddichon mai caeau
oedd darlleniad LlWM. 9. Croes Naid darn o'r Wir Groes a fu
ym meddiant tywysogion Gwynedd tan y Goncwest. Yn ôl traddodiad daeth
Elen Luyddog â'r Groes i Brydain, a chan mai merch i Gustennin,
Ymherawdwr Rhufain, oedd Elen gellir deall bro'r
Eidial fel gwlad yr Eidal. Am enghreifftiau cynnar o'r ffurf
Eidial gw. G 453.11. owmal o'r SC
aumayl, 'enamel', sef haenen addurniadol dros arwynebau metelaidd. leiddiad Lyr Roedd Llyr,
tad Bendigeidfran a Branwen, yn adnabyddus fel ymladdwr ffyrnig, cymh. 5.42,
7.45, 17.43. Yr ergyd, felly, yw bod y ferch yn peri marwolaeth dynion yn yr un
modd â Llyr. Ond anodd gweld y rheswm dros y treiglad i'r enw.
Dilynodd Gwyn Thomas awgrym Parry, GDG 479, a chyfieithu
lwyr ('truly stunning'), ond wedyn rhaid mai
gwyr yw ail elfen poenwyr yn y llinell
nesaf, ac nid yw'n amlwg beth fyddai ystyr hynny.13. Ceir cynghanedd bengoll yn y llinell hon.15. Fflur y ferch yr aeth Caswallon
fab Beli i Rufain i'w cheisio, gw. TYP3 354.17. Maelor ardal yn y gogledd-ddwyrain
a gynhwysai ddau gwmwd, Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg. At y rhain y cyfeirir
yn ll. 23 isod.19. penial Yr ystyr yma yw rhywfath o
rwymyn pen, gw. GDG 480.20. fflwring aur Bathwyd y fflwring aur
gan Edward III yn 1344, a'r fflwr-dy-lis (ll. 21) yn addurn arni, gw. D.
S. Jones (1960), a chymh. 32.13-14 (= GDG 23) lle sonnir eto am y
fflwr-dy-lis yng nghyswllt y fflwring.21. fflwr-dy-lis o'r Ffrangeg
fleur de lyce, y lili.23. y ddau gymwd cymydau Maelor, gw.
nodyn 17.25. awr loywbrim cymh. 42.15, 'Gwiw
loywbryd haul goleubrim'.