Testun Golygedig: 11 - Awdl i Ifor Hael

Awdl i Ifor Hael

Da y rhed ar waered arw oror—olwyn
      Neu wylan ar rydfor;
   Deuwell y rhed, buddged bôr,
4    Diwyd wyf, dy wawd, Ifor.

Os da plethiad mad y môr—a'i hirwlych
      Wrth herwlong raff angor,
   Gwell y plethaf, ddewraf ddôr,
8    Gwawd y tafawd yt, Ifor.

Ni thyf caen, llen maen, llanw môr—rhyferthwy,
      Rhwyf Arthur neu Echdor,
   Mygr ateb, ddiaereb ddôr,
12    Mal y tyf mawl yt, Ifor.

Cyfyd yt hawdd fyd, fadiain bôr,—gennyf,
      Ac annwyl hawddamor,
   Cad drachyfarf, ddurarf ddôr,
16    Cedyrn ofn, cadarn Ifor.

Nêr y byd wryd, bedeiror—giwdawd,
   A Naf o logawd nef oleugor,
Neirthiad fo Efô ar fôr—daearlen,
20    Nen y ffurfafen, i ffyrf Ifor.
Newidiwr, trwsiwr trysor—moliant,
   Normant glud goddiant, glod egwyddor;
Naddiad arf aergad, eirf argor—Einglgawdd,
24    Nawdd, mŷr a rwyfawdd, Mair ar Ifor.
Nawd braisg Ercwlff waisg, wisg borffor—lathrsiamp,
   A Nudd oreugamp neddair agor;
Neud berth a chyngerth uwch angor—deifrblas,
28    Nid bas rhygafas rhywiog Ifor.
Ni byddai, lle bai ball, hepgor—arnaw,
   Ni bwyf fi hebddaw, barawdlaw bôr.
Ni bydd anrhegydd un rhagor—nac uwch,
32    Ni bu ogyfuwch neb ag Ifor.

Hardd eisyllydd rhydd, rhodd ddidor—meddlyn,
   Helmwyn Lywelyn, wawl gychwior.
Heddiw nid ydiw didwyll iôr—gwyndal
36    Hafal, hael ddyfal, hylwydd Ifor.
Hawdd ddydd ym y rhydd, rhwydd gyngor—ddangos,
   Hawdd nos hedd agos hoyw eiddigor.
Hawdd ym mwrdd ymwrdd, hawddamor—beunydd,
40    Hawdd fyd bryd brawdffydd ufydd Ifor.
Hawdd mawl mal ychdawl Echdor—yn nherfysg,
   Hardd ffysg Deifr unddysg, â'r dew fronddor.
Hwyliais a chefais â chyfor—durfyng
44    Hail diogyfyng haeldeg Ifor.
Heirdd ddigeirdd, i feirdd fawrddor—dariangrwydr,
   Hoyw frynarwr brwydr Hafren oror.
Hir oesog fu Noe, haer aesor—facwy,
48    Hwy, huawdl ofwy, fo hoedl Ifor.