llyma gywydd y penwisg
1 Heddiw i gwelaf ddavydd
2 hawdd vyd i heddiw a vydd
3 rwng gwallt am gwitiaw yn chwyrn
4 a dwyael merch i deyrn
5 roi gwerth kanpvnt ar vntal
6 o gywrain main ag aur mal
7 wel dyna weled anawdd
8 i rai or tal o aur tawdd
9 myn kroes naid o vro Eidial
10 a gwaed dyn gwiw yw y tal
11 owmal o wlad lvddiad Lyr
12 yw pennwisg vy nyn poenwyr
23 gem yw ar ddaw o gwmwd
24 ag aur Phraink vne gairw ffrwd
13 ag asur ar gyswr jad
14 Er gwasgv kombyr ywr gwisgad
19 fflwch ractal ne benial boen
20 fflwring aur ffloew ring oroen
21 da lvn ar ddail fflwrdelis
22 ag aur berw o gaer Baris
25 awr loewbrim eiry olaubryd
26 anrydedd bailch wragedd byd
27 gwae vi vab Mair ddiwair dda
28 i theked ag na thykia
Davydd ap gwilim ai kant