â â â Y Fun o Eithinfynydd
1â â â Y fun o Eithinfynydd,
2â â â F'enaid teg, ni fyn oed dydd.
3â â â Feinion aeliau, fwyn olwg,
4â â â Fanwallt aur, fuanwyllt wg,
5â â â Fy ngwynfyd rhag trymfryd tranc,
6â â â Fy nuwies addwyn ieuanc,
7â â â Fy nrych, llewych mewn lliwaur,
8â â â Fy rhan yw, fy rhiain aur,
9â â â Fy swllt dan fynwes elltydd,
10â â â Fy serch ar hon fwyfwy sydd.
11â â â Fy nillyn mwynwyn manwallt,
12â â â Fy nghrair ni chair yn uwch allt.
13â â â Ni chyrch hon goed y fron fry,
14â â â Ni châr a'i câr, ni chwery.
15â â â Ni chair Morfudd i chwarae:
16â â â Nych air, caru Mair y mae
17â â â A charu'r saint gwych hoywrym
18â â â A charu Duw. Ni chred ym.
19â â â Ni wyr gwen, anoriog wyf,
20â â â Nid edwyn mo'r oed ydwyf.
21â â â Ni adwaeniad odineb,
22â â â Ni fynnai 'nyn fi na neb.
23â â â Ni fynnwn innau, f'anwyl,
24â â â Fyw oni chawn fun wych wyl.
25â â â Am hynny darfu 'mhoeni.
26â â â Morfudd fwyn, marw fyddaf fi.