Y Fun o Eithinfynydd
Y ferch o Eithinfynydd,
nid yw'n dymuno [cynnal] oed, fy anwylyd hardd.
[Un ag] aeliau meinion a llygaid tirion
4 a gwallt mân o liw aur [a] gwg garw a sydyn,
fy hyfrydwch rhag meddyliau trist am henaint,
fy nuwies luniaidd ac ieuanc,
fy nrych, disgleirdeb [yn tarddu] o wedd euraid,
8 fy anrheg, fy merch olau ei phryd,
fy ngem yng nghysgod y fron,
cynyddu y mae fy serch tuag ati.
Fy nhlws annwyl a golau [ei chnawd] a mân ei gwallt,
12 ni cheir fy anwylyd uwchlaw'r llethr.
Ni ddaw hon i goed y fron acw,
nid yw'n caru'r sawl sydd yn ymserchu ynddi [ac] ni fyn hwyl [yn
ei gwmni].
Ni ddaw Morfudd i gael hwyl:
16 ymateb [sy'n peri] nychdod, Mair yw gwrthrych ei serch hi
a'r saint rhagorol a mawr eu doniau
a Duw hefyd. Ni wnaiff ymddiried ynof.
Ni wyr y ferch ac nid yw'n sylweddoli
20 pa fyd sydd arnaf, un ffyddlon wyf [iddi].
Nid oedd yn gyfarwydd â godinebu
[ac] ni fynnai y ferch fy nghael i nac un dyn [arall].
Ni fynnwn innau fyw, anhwylder [sydd] i mi,
24 oni chawn y ferch ragorol a gwylaidd.
Oherwydd hyn daeth dolur i'm rhan.
Morfudd annwyl, fy nhynged fydd marw.