â â â Y Garreg Ateb
1â â â Ychydig o'r cerrig gerw
2â â â Un arfer, widdon oerferw,
3â â â Â'r garreg hwnt gyriog gau,
4â â â Gystoges drosgl gystegau.
5â â â Mwy y dywaid heb beidiaw
6â â â Ar ael y glyn ar ôl glaw
7â â â No Merddin sonfawr mawrddig
8â â â Fab Saith Gudyn, y dyn dig.
9â â â Agos ym, ac i'm siomi
10â â â Yn eryl o'i hymyl hi,
11â â â Yn aros merch goris maes
12â â â Dan goedlwyn dinag adlaes,
13â â â Hyhi i'm ceisio i'n wyl,
14â â â Minnau'n ceisio gem annwyl
15â â â Fal y ddau Ychen hen hy
16â â â Fannog. 'Pa beth a fynny?',
17â â â Galw pob un ei gilydd.
18â â â Ymgael i gyd-da fyd fydd.
19â â â Mewn glasgyll tywyll tawel
20â â â Ydd oeddym, da gwyddym gêl,
21â â â Mi a'r fun, mau ofynaig,
22â â â Yng nghysgod maen graen y graig.
23â â â Eresyn doeth, er ised
24â â â Yr ymddiddenym, grym gred,
25â â â Ateb a gwrtheb yn gau
26â â â Yn ei hiaith a wnâi hithau.
27â â â Diliwio'r ferch, delw aur fain,
28â â â Daly ofn rhag y dolefain,
29â â â Ffionaidd rudd, ffo yna.
30â â â A phwy o ddyn ni ffôi'n dda?
31â â â Artaith oer, dioer, dairdyblyg
32â â â Ar freuant y creignant cryg,
33â â â Curnen a fref fal cornawr,
34â â â Carnedd foel fal caer nadd fawr!
35â â â Mae naill i mewn ai ellyll
36â â â Ynddi, hen almari hyll,
37â â â Ai cwn yn y garreg gau
38â â â Sy'n cogor, ai sain cawgiau;
39â â â Gwaedd unllef lladd gwydd henllom,
40â â â Gwaslef gast gref dan gist grom;
41â â â Gwiddon groch yn gweiddi'n greg
42â â â Er gyrru ofn o'r garreg.
43â â â Llidfawr rwyf, llad warafun,
44â â â Lluddiodd fi lle 'dd oedd y fun.
45â â â Llesteiriodd wahodd i was.
46â â â Mefl iddi am ei luddias!