Y Garreg Ateb
Ychydig o blith y creigiau milain
[sydd] yn ymddwyn megis y graig ddanheddog a thwyllodrus
hon,
y ddewines gas ei bwrlwm,
4 yr ast [sy'n peri] trafferthion [mewn dull] afrosgo.
Heb dewi o gwbl dywed fwy
ar lethr y dyffryn ar ôl y glaw
na Myrddin Fab Saith Gudyn, y dyn sarrug
8 [sydd yn] uchel ei gloch [oherwydd ei] fawr ddicter.
Yr oedd gerllaw ac [yno] i beri siom i mi
mewn helfa nid nepell oddi wrthi,
[a minnau] yn disgwyl merch islaw'r lle
12 o dan lwyn o goed croesawgar, cysgodol,
hithau yn chwilio amdanaf yn llednais
[a] minnau [hefyd] yn chwilio am [y lodes] annwyl [oedd megis]
gem
fel y ddau ychen bannog hen a nerthol.
16 'Beth yr wyt yn ei geisio?',
yr oedd y ddau ohonom yn galw y naill ar y llall.
Hyfrydwch fyddai dod ynghyd er mwyn cyplu.
Yr oeddem, a ninnau wedi ymguddio yn ddeheuig,
20 yn y llwyni cyll iraidd, tawel a thywyll,
y fun a minnau, dyna fy neisyfiad,
yng nghysgod craig dywell y llethr.
Er mor dawel yr oeddem yn sgwrsio,
24 dilys yw fy marn, y parablwr cywrain,
ateb yn dwyllodrus drachefn a thrachefn
yn ei hiaith ei hun a wnâi hi [sef y graig].
Llwydodd gwedd y ferch, ffurf osgeiddig olau ei phryd,
28 [a] dychrynodd oherwydd y swn udo,
[un a chanddi] ruddiau [megis] ffion, ffoi wedyn a wnaeth.
A pha enaid byw na fyddai'n dewis ffoi ar ei union?
Bydded i gorn gwddf y graig gryg yn y dyffryn
32 [ddioddef] cosb arw a hirfaith, yn wir,
pentwr o gerrig sy'n brefu fel canwr corn,
carnedd ddiaddurn fel caer fawr [o feini] a naddwyd.
Naill ai y mae yn ei chrombil ellyll,
36 hen gist salw ydyw,
neu [y mae] yn y graig wag
gwn sy'n cleber, neu swn llestri gweigion;
gwaedd o'r un natur [â phe buasid] yn lladd hen wydd
druenus [yr olwg],
40 cyfarth gast fywiog [wedi ei chaethiwo] dan gist grom;
dewines arw ei llais yn gweiddi'n gryg
o'r graig er mwyn creu arswyd.
Taith [a esgorodd] ar ddicter eithafol, [un sy'n] nadu
rhodd,
44 rhwystrodd fi [yn y fan] lle yr oedd y ferch.
Ataliodd y gwahoddiad [a gafodd] y llanc.
Melltith iddi am iddi ei rwystro.