Nodiadau: 158 - Y Garreg Ateb

Fersiwn hwylus i

GDG 130; HGDG 59

Carreg ateb yw'r rhwystr yn y cywydd hwn. Disgrifir Dafydd a'i gariadferch yn cynnal oed yn y llwyni yng nghysgod y graig, ond pair y garreg ateb fraw i'r ferch ac â ymaith ar wib. Melltithia Dafydd y garreg a amharodd ar hud yr achlysur mewn dilyniant byr o gwpledi dychanol sy'n pwysleisio pa mor ansoniarus ydoedd y sŵn a grewyd ganddi.

Nid yw'r cywydd hwn ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus Dafydd. Fe'i diogelwyd mewn dwy lawysgrif o'r 16g ac mewn copi arall o'r 17g yn llaw Robert Vaughan, Hengwrt. Gellid tybio mai un gynsail gyffredin sydd i'r tair hyn ond bod olion llygru ar y testun ynddynt ill tair. Ni wyddai Thomas Parry am LlGC 19904; er nad yn hon y ceir y testun gorau cynnwys ddarlleniadau da a ddiogelwyd yn y ddwy lawysgrif o'r 16g. Lle yr oedd Ll 6 a BM 24 yn gwahaniaethu yr oedd tystiolaeth llawysgrif Robert Vaughan yn hwyluso'r dasg o ddewis y darlleniad gorau. Collwyd llau. 19–20 yn Ll 6 ond fe'u ceir yn BM 24 ac yn LlGC 19904. Ar y llaw arall collwyd yn BM 24 lau. 29–30 a rhoddwyd cwpled arall yn ei le. Y tro hwn dilyn LlGC 19904 ddarlleniad Ll 6.

Mynegodd Thomas Parry amheuaeth ynghylch dilysrwydd y cywydd oherwydd nad oedd iddo warant lawysgrifol gadarn. Mewn un llawysgrif gynnar yn unig y'i priodolir i Ddafydd, a Ll 6 yw honno. Fe'i rhoddir i Iolo Goch yn LlGC 19904 ac y mae yn ddienw yn BM 24. Rhaid ystyried y posibilrwydd y gallai'r cywydd fod wedi ei drosglwyddo yn ddienw ac i gopïwyr diweddarach geisio dyfalu pwy a'i lluniodd. 'Ond ar sail ei arddull, sy'n union fel DG, barnwyd y gallai'n hawdd fod yn waith y bardd', gw. GDG 537. Y mae yma linellau sy'n dwyn i gof linellau mewn cywyddau eraill, a'r rheini fel y cywydd hwn yn gywyddau rhwystr, gw. 158.44–6n isod. Ar y llaw arall y mae'r llinellau sy'n cynnwys cytseiniaid gwreiddgoll a pherfeddgoll yn fwy niferus na'r arfer, a rhaid cyfrif galw yn ll. 17 yn air deusill. Y mae yma nifer o ymadroddion nad ydynt yn digwydd yn y cerddi eraill a briodolir i Ddafydd, er enghraifft cysteg, costog, breuant, almari, gwiddon; digwydd y pump hyn yng nghanu Iolo Goch.

Cynghanedd: croes 14 ll. (30%), traws 15 ll. (33%), sain 16 ll. (35%), llusg 1 ll. (2%)

1. gerw   Ni ddigwydd y cyfuniad gerw / oerferw o gwbl yn y llsgrau. ond gan mai oerferw sydd yn ail fraich y cwpled yn Ll 6 gweddai gerw yma. Rhoddir iddo'r ystyr 'milain, llidiog, ffyrnig' yn GPC 1395 ond y cwpled hwn yw'r unig enghraifft a ddyfynnir.

2. gwiddon   Rhestrir y ffurf hon a gwiddan, sef darlleniad BM 24, yn GPC 1658.

3. cau   Cynigir dwy ystyr i cau yn GPC 441: naill ai i. 'gwag, yn ffig. ffals, twyllodrus', neu ii. 'yn cau neu'n amgáu'. Diau mai'r gyntaf sy'n taro orau.

  r wreiddgoll.

7–8. Merddin...Fab Saith Gudyn   Un o arwyr yr Hen Ogledd oedd Myrddin a diau fod ei gampau ym mrwydr Arfderydd a'r modd y ffoes wedyn i goedwig Celyddon yn destun chwedlau gynt, gw. TYP2 469–74. Diogelwyd drylliau o draddodiadau amdano hefyd sy'n awgrymu ei fod yn ŵr doeth ac yn un a oedd yn siarad yn ddi-baid ond er bod E I Rowlands a Thomas Jones yn trafod yr olion hyn yn LlC 4 (1956–7), 117–19, ib. 179–80, ni chynigir goleuni ar yr epithet Mab Saith Gudyn. Sylwer mai yn Ll 6 yn unig y gwelir yr e.p Myrddin ym mraich gyntaf y cwpled; yr e.c. murddun sydd yn BM 24 a LlGC 19904. Mabwysiadwyd y ffurfMerddin gan fod yr odl yn mynnu'r ffurf honno yn 20.27.

7.   n wreiddgoll.

9.   m berfeddgoll.

11.   n wreiddgoll.

12. dinag adlaes   Ar y ffurf adlaes, gw. 72.1n. Pe gellid derbyn y ffurf mais am maes yn ll. 11, yna gellid y sangiad dinag adlais 'eco dibaid' yn ail fraich y cwpled.

14. ceisio gem   Y gysefin fydd yn dilyn y berfenw fel arfer a diwygiodd Thomas Parry ddarlleniad Ll 6 i ceisio gem. Tybed a allai em gynrychioli sain y llythyren M, sef llythyren gyntaf enw cariadferch Dafydd?

15–6. dau Ychen...Fannog   Yr oedd a wnelo un o'r anoethau y disgwylid i Gulhwch eu cyflawni cyn ennill llaw Olwen yn chwedl 'Culhwch ac Olwen' â'r deu ychen bannawc, y lleill [? neill] yssyd o'r parth hwnt y'r Mynyd Bannawc a'r llall o'r parth hwnn, ac eu dwyn y gyt y dan yr un aradyr, gw. CO 22. Daeth y ddau yn symbol o serch a chyfeillgarwch, ac am rai cyfeiriadau atynt, gw. GLM XLII.75–6n.

16.   Gellid cyfeirio'r cwestiwn at y garreg ateb: 'Beth yr wyt yn ceisio ei gyflawni?' ond tebycach y dylid ei gysylltu â'r geiriau sy'n dilyn.

17.   O ddilyn darlleniad Ll 6 a BM 24 rhaid cyfrif galw yn air deusill. Diwygiwyd y llinell yn GDG i Galw bob un ar ei gilydd ond ni ddangoswyd nad oedd i'r llinell ar ei newydd wedd warant lawysgrifol. Yn galw yw darlleniad LlGC 19904.

18. ymgael   Cyflea'r ystyron 'dod ynghyd, ennill' a 'cael cyfathrach rywiol', gw, GPC 3778. Tybed a yw'r bardd unwaith eto yn y llinell hon yn cyfeirio'r sylw (priddaidd ddigon) at ei gynulleidfa? Am enghreifftiau eraill, gw. 63.21n.

19–20.   Ni welir y cwpled hwn yn Ll 6.

21. gofynaig   Diwygiwyd darlleniad y llsgrau. yn GDG (tystia LlGC 19904 nad oedd yn hysbys pan olygwyd GDG mai penderfyniad doeth ydoedd mabwysiadu mau) a dyfynnir y cwpled yn GPC 1433 d.g. Rhoddir iddo'r ystyron 'gobaith; deisyfiad; gweddi'.

  Ceir r berfeddgoll yn y llinell ar ôl ei diwygio.

23. eresyn   Amrywiad ar erestyn 'clerwr', gw. GPC 1231.

28. dolefain   Ni chofnodir y ffurf dylefain a welir yn Ll 6 yn GPC 1073–4 d.g. dolefain 'bloeddio'.

29. ffionaidd   Dilynwyd darlleniad LlGC 19904 a cf. 129.13 Greddf fföes gruddiau ffion. Dyfynnir y cwpled yn GPC 1322 d.g. ffuannaidd 'ffals, twyllodrus' gan ddilyn darlleniad GDG a Ll 6. Collwyd y cwpled yn BM 24 ond digwydd cwpled arall sy'n ymddangos fel pe bai yn gwpled strae yn yr union safle.

30.   n berfeddgoll.

31. tairdyblyg   Dilynwyd darlleniad BM 24 a LlGC 19904. Diwygiodd Thomas Parry ei destun ef i dauddyblyg.

  Cynghanedd sain bengoll.

32. breuant   'Corn gwddf, pibell wynt', gw. GPC 321. Ymddengys nad oedd copïwr Llst 6 yn gyfarwydd â'r ffurf. Dieithr iddo hefyd oedd y ffurf almari yn ll. 36.

33. curnen   Bachigyn curn 'pentwr, carnedd'. Y llinell hon yw'r enghraifft gynharaf a ddyfynnir yn GPC 631 ond ni ddigwydd curnen yn y llsgrau. cynharaf; kyrner sydd yn Ll 6, kyrn yn BM 24 a cerner yn LlGC 19904.

38. cŵ ... cawgiau    Awgrymodd Helen Fulton (Fulton 1989) y geill fod yma gyfeiriad at y byd arall. Crybwyllir cŵn y nos, cŵn Annwfn ond odid, yn 'Y Dylluan', gw. 61.22. Ac y mae i'r cawg sydd ynghlwm wrth y llech yn chwedl 'Owain' gyswllt â byd lledrith.

38. cogor   'Cleber'. Dilynwyd BM 24 a LlGC 19904 sy'n trin y gair fel pe bai yn ferfenw yn hytrach nag yn enw fel y gwneir yn Ll 6. Nodir y ddwy swyddogaeth yn GPC 541.

39. unllef   Diwygiwyd hunlle sy'n digwydd yn y tair llsgr. gynharaf er mwyn gwella'r ystyr, er nad yw'r gynghanedd cyn gryfed o ganlyniad. Dyfynnir y llinell d.g. hunllef yn GPC 1924.

40. gwaslef   Cofnodir y ffurf hon a goslef yn GPC 1511.

43. rhwyf   Nid yw'r llsgrau. yn gytûn yn achos y llinell hon. Dilynwyd BM 24 sy'n cynnig llidfawr a mentrwyd diwygio rhif Ll 6 i rhwyf 'rhwysg, ? taith', gw. GPC 3114 (ac y mae'n bosibl mai ymgais i gyfleu'r ffurf hon sydd yn LlGC 19904). Diwygiwyd lled warafun i llad warafun er mwyn gwella'r ystyr.

44–6.   Ailadroddir y cyfuniad lluddiodd...lluddias yn llinellau clo cywydd 'Y Niwl', gw. 57.55–8. Dilynwyd BM 24 a LlGC 19904 yn ll. 45 (llesteiriodd) a chynhelir y cymeriad llythrennol o ddilyn y flaenaf, ond ailadroddir y ferf lluddio yn Ll 6.

44.   Y llinell hon sy'n cloi cywydd arall o waith Dafydd sy'n perthyn i ddosbarth y cerddi rhwystr, sef 'Y Ffenestr', 65.52.