â â â Mawl i'r Ceiliog Bronfraith
1â â â Y ceiliog, serchog ei sôn,
2â â â Bronfraith, dilediaith loywdon,
3â â â Deg loywiaith, doe a glywais,
4â â â Dawn fad lon, dan fedw ei lais.
5â â â Ba ryw ddim a fai berach
6â â â Blethiad na'i chwibaniad bach?
7â â â Plygain y darllain deirllith,
8â â â Plu yw ei gasul i'n plith.
9â â â Pell y clywir uwch tiroedd
10â â â Ei lef o lwyn a'i loyw floedd,
11â â â Proffwyd rhiw, praff awdur hoed,
12â â â Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
13â â â Pob llais diwael yn ael nant
14â â â A gân ef o gu nwyfiant,
15â â â Pob caniad mad mydr angerdd,
16â â â Pob cainc o'r organ, pob cerdd,
17â â â Pob cwlm addwyn er mwyn merch,
18â â â Ymryson am oreuserch.
19â â â Pregethwr a llywiwr llên,
20â â â Pêr ewybr, pur ei awen,
21â â â Prydydd cerdd Ofydd ddifai,
22â â â Prif urddas, prim-y-mas Mai.
23â â â Adwaen ef o'i fedw nwyfoed,
24â â â Awdur cerdd adar y coed,
25â â â Adlais lon o dlos lannerch,
26â â â Odlau a mesurau serch,
27â â â Edn diddan a gân ar gyll
28â â â Yng nglwysgoed, angel esgyll.
29â â â Odid ydoedd i adar
30â â â Paradwys, cyfrwys a'i câr,
31â â â O dro iawngof drwy angerdd
32â â â Adrodd a ganodd o gerdd.