| Mawl i'r Ceiliog Bronfraith | |
| Y ceiliog, serchog ei sôn, | |
| Bronfraith, dilediaith loywdon, | |
| Deg loywiaith, doe a glywais, | |
| 4 | Dawn fad lon, dan fedw ei lais. |
| Ba ryw ddim a fai berach | |
| Blethiad na'i chwibaniad bach? | |
| Plygain y darllain deirllith, | |
| 8 | Plu yw ei gasul i'n plith. |
| Pell y clywir uwch tiroedd | |
| Ei lef o lwyn a'i loyw floedd, | |
| Proffwyd rhiw, praff awdur hoed, | |
| 12 | Pencerdd gloyw angerdd glyngoed. |
| Pob llais diwael yn ael nant | |
| A gân ef o gu nwyfiant, | |
| Pob caniad mad mydr angerdd, | |
| 16 | Pob cainc o'r organ, pob cerdd, |
| Pob cwlm addwyn er mwyn merch, | |
| Ymryson am oreuserch. | |
| Pregethwr a llywiwr llên, | |
| 20 | Pêr ewybr, pur ei awen, |
| Prydydd cerdd Ofydd ddifai, | |
| Prif urddas, prim-y-mas Mai. | |
| Adwaen ef o'i fedw nwyfoed, | |
| 24 | Awdur cerdd adar y coed, |
| Adlais lon o dlos lannerch, | |
| Odlau a mesurau serch, | |
| Edn diddan a gân ar gyll | |
| 28 | Yng nglwysgoed, angel esgyll. |
| Odid ydoedd i adar | |
| Paradwys, cyfrwys a'i câr, | |
| O dro iawngof drwy angerdd | |
| 32 | Adrodd a ganodd o gerdd. |