Awdl i Ifor Hael
Yn dda y rhed olwyn i lawr llethr serth
neu [y rhed] gwylan ar sianel;
ddwywaith yn well y rhed, arglwydd llesol,
4 (gwas ffyddlon wyf) dy foliant, Ifor.
Os da yw plethiad daionus y môr a'i wlychu hir
wrth raff angor llong arfog,
yn well y plethaf, ddôr ddewraf,
8 foliant y tafod iti, Ifor.
Ni thyf llanw môr ymchwyddol, llen [ar] faen, un haenen
([i] falchder Arthur neu Echdor
ateb gwych [ydyw], dôr dihareb)
12 fel y tyf mawl iti, Ifor.
Daw hawddfyd iti, arglwydd ffodus ei eni, gennyf,
a chyfarchiad annwyl;
cyfartal â byddin, dôr ag arf ddur,
16 braw gwyr cadarn, Ifor gadarn.
Arglwydd nerth y byd, pobl [y] pedwar ban,
ac Arglwydd o lys nefoedd olau ei chôr,
boed Ef yn nerthwr ar fôr [sy'n] orchudd ar y ddaear
20 (Arglwydd y ffurfafen) i Ifor gryf.
Masnachwr, lluniwr trysor er mwyn moliant,
digofaint cyfoeth Norman, elfen hanfodol clod;
naddwr arf brwydr, arfau [yn ffurfio] cledrwaith [er] corddi
Saeson,
24 [boed] nawdd Mair (rhwyfodd foroedd) ar Ifor.
Natur wych Ercwlff rymus, gwisg borffor ddisglair ei harwynebedd,
a Nudd orau ei gamp agored ei law;
hardd a chadarn [yw] palas dwr wrth angor,
28 nid yn fas y derbyniodd Ifor fonheddig [ei rinweddau].
Ni fyddai, lle bo [ei] ddiffyg, [y gallu i] wneud hebddo,
na foed imi fod hebddo, arglwydd parod ei law.
Ni fydd un rhoddwr rhagorach nac uwch,
32 ni fu neb cyn uched ag Ifor.
Disgynnydd hardd hael (rhodd ddidor o fedd)
Llywelyn wyn ei helmed, câr disglair.
Heddiw nid oes arglwydd didwyll gwyn ei dâl
36 fel Ifor lwyddiannus, wr dyfal hael.
Mae'n rhoi dydd braf imi, [a] dangos cyngor parod,
nos bleserus [o] hedd [yn] agos [at] arglwydd hardd.
Hawdd ymryson wrth [ei] fwrdd, cyfarchiad beunydd,
40 [bydded] hawddfyd [i un o] fryd brawdffydd Ifor ostyngedig.
Hawdd [yw] canmoliaeth [un] fel Ector â'i hyrddiad fel
ych mewn brwydr,
yn hardd y gwasgara rhai o'r un ddysgeidiaeth â Deifr,
â'r bronblat cadarn.
Hwyliais a chefais gydag ymchwydd bywiog
44 wledd ddibrin Ifor hael a theg.
[Gwyr] hardd difai, i feirdd dôr fawr [ydyw] â
tharian wedi ei haddurno â rhwyllwaith,
braenarwr bywiog brwydr glan Hafren.
Hirhoedlog fu Noa, arglwydd ieuanc cadarn â tharian,
48 hwy (arhosiad coeth) fo oes Ifor.