Mawl i'r Ceiliog Bronfraith
Y ceiliog bronfraith, serchog ei leferydd,
cân eglur mewn iaith berffaith,
iaith eglur hardd, a glywais i ddoe,
4 talent ddaionus a siriol, dan goed bedw [roedd] ei lais.
Beth a allai fod yn blethiad
perach na'i chwibaniad bach?
Yng ngwasanaeth y plygain y mae'n darllen tair llith,
8 plu yw ei offerenwisg yn ein mysg.
Mae ei gri a'i floedd hyglyw o lwyn
i'w clywed ymhell dros y tiroedd,
proffwyd allt, awdur grymus hiraeth,
12 pencerdd coed y glyn disglair ei gelfyddyd.
Mae e'n canu pob llais gwych
o asbri hoffus yn ymyl nant,
pob caniad da mewn mydr celfydd,
16 pob alaw o'r organ, pob cerdd,
pob tôn hyfryd er mwyn merch,
cystadleuaeth farddol am y serch gorau.
Pregethwr ac arweinydd llenyddiaeth,
20 pêr ac eglur, pur yw ei ysbrydoliaeth,
bardd cerdd berffaith Ofydd,
prif urddas, pennaeth Mai.
Awdur caneuon adar y coed,
24 o'i fedwlwyn lle mae cariadon yn cwrdd
mae'n adnabod awdlau a mesurau [cerddi] serch,
llais canu llawen o lannerch hardd,
aderyn difyr sy'n canu ar goed cyll
28 mewn coedwig deg, adenydd angel.
Prin y gallai adar Paradwys
(yr un dysgedig sy'n ei garu)
trwy gelfyddyd a champ cof cywir
32 adrodd yr holl ganeuon a ganodd.