Cow ir Ceiliog bronfraith
1 Y ciliog serchog i sön
2 bronfraith di lediaith loywdon
3 deg loywiaith doe a glowais
4 dawn fad lon dan fedw i lais
5 ba ryw ddim a fv berach
6 blethiad ai chwibaniad bach
7 plygain y darllain deirllith
8 plv yw i gasyl yn plith
9 pell i clowir ywch tiroedd
10 i lef o lwyn ai loyw floedd
11 proffwyd rhiw praff awdvr hoed
12 pencerdd glew angerdd glyngoed
13 pob llais diwael yn ael nant
14 a gan ef o gv nwyfiant
15 pob caniad mad mvdr angerdd
16 pob cainc ar organ pob cerdd
17 pob cwlm addfwyn er mwyn merch
18 ymryson am orevferch
19 pregethwr a lliniwr llen
20 per ewybr pvr i awen
21 prydydd cerdd Ofydd ddifai
22 prif vrddas pren mowrlas mai
25 adlais lon o dlos lannerch
26 odlav a mesvrav serch
27 edn diddan ar gan ar gyll
28 ynglwysgoed angel esgyll
29 odid ydoedd i adar
30 paradwys cyfrwys ai car
31 o droi iowngof drwy angerdd
32 adrodd a ganodd o gerdd
dd ap gwilim ai cant