â â â Y Brithyll
1â â â O frithyll, fyfyr ieithydd,
2â â â A thyst yt fyddaf i'th ddydd,
3â â â Pasg adeilyn, pysg dilwfr,
4â â â Pefr frithyll o defyll dwfr,
5â â â Mab maeth, taer arfaeth terfysg,
6â â â Llyn Tegid lle pesgid pysg.
7â â â Rhed o ddawn, er hyd ydd wyf,
8â â â Eginyn pysg, o Gonwyf,
9â â â Nid oes gennad geladwy
10â â â Na chyngor i'r faenor fwy,
11â â â Tew frwysg, oleulan Taf fry,
12â â â Tadwys i ddwfr, ond tydy.
13â â â Dur ni'th ladd, dewredd gladd glan,
14â â â Dwfr ni'th fawdd, Deifr ni'th feiddian'.
15â â â Ni'th glyw neb yn gohebu,
16â â â Ni'th wyl llwfr dan y dwfr du.
17â â â Nid rhaid iti, 'm Duw a'r crair,
18â â â Nac annwyd nac ofn genwair.
19â â â Cred ar fardd, croyw awdr o Fôn,
20â â â Crair ar ddwfr croywrudd afon,
21â â â Pysg o drychanffrwd, ffrwd ffraeth,
22â â â Pellferw o ddwfr, pe pyllfaeth,
23â â â Penáig hoyw ar ddwfr croyw Cred,
24â â â Pwrcas arweddawdr perced.
25â â â Tro hyd pan dorro dwyrwyd,
26â â â Tewfyr, creadur cryf wyd.
27â â â Duw Rên Arglwydd rhagod rhwydd,
28â â â Ac erof fi dwg arwydd;
29â â â Insel cariad, brofiad braw
30â â â O air orn, a roir arnaw.
31â â â Nofia gyfair llys Greirwy,
32â â â Nwyf ym wyd, na nofia mwy.
33â â â Diddwylaw ar naw' i'r nef,
34â â â A didroed y doi adref.
35â â â Brysia, na hir rodia ryd,
36â â â Dwg ynn chwedl da i gennyd.