Y Brithyll
O frithyll, ieithydd meddylgar,
(a byddaf yn dyst iti yn dy ddydd)
yn bwydo mewn llyn cartrefol, pysgodyn dewr,
4 frithyll gwych o defyll [y] dwr,
mab maeth (nod taer terfysg)
Llyn Tegid lle y pesgid pysgodyn.
Rhed drwy ddawn (er pa le bynnag yr wyf),
8 bysgodyn ieuanc, o afon Conwy
(nid oes gennad gudd
na chyngor i'r faenor bellach ond tydi,
praff a chadarn), [i] lan olau afon Taf uchod,
12 tad i ddwr.
Ni fydd dur yn dy ladd (pwll sil pysgod [o] wychder glan)
ni fydd dwr yn dy foddi, ni fydd Deifr yn dy herio.
Ni fydd neb yn dy glywed yn llefaru,
16 ni fydd gwr llwfr yn dy weld dan y dwr du.
Ni fydd yn rhaid iti, myn Duw a'r crair,
fod ag annwyd nac ofn genwair.
Ymddirieda mewn bardd, awdur croyw o Fôn,
20 trysor ar ddwr afon groyw a choch,
pysgodyn o dri chan ffrwd, ffrwd gyflym,
dwr ewynnog am amser/bellter hir, os [wyt] wedi [dy] fagu
mewn pwlll,
arweinydd bywiog ar ddwr croyw Cred [ydwyt],
24 pryniad cludwr rhwyd bysgota.
Tro hyd nes i ddwy rwyd dorri,
praff a byr, creadur cryf wyt ti.
[Bydded i] Arglwydd Dduw Frenin [fynd] rhagot [yn] rhwydd,
28 ac er fy mwyn dwg arwydd;
sêl cariad (brofwr braw
drwy air sarhaus) a roir arno.
Nofia i gyfeiriad llys Creirwy
32 (rwyt yn nwyd imi) [yna] paid â nofio mwy.
Yn ddiddwylo yn nofio i'r nef,
ac yn ddi-droed y deui adref.
Brysia, paid â theithio yn hir dros ryd,
36 dwg inni newydd da gennyt.