â â â Y Sêr
1â â â Rho Duw, 'y mun, rhaid i mi
2â â â Olwynau Mai eleni
3â â â Rhag cerdded gwared, nid gwiw,
4â â â A gelltydd, fy nyn gwalltwiw;
5â â â Cynyfed llyn ar fryn fry,
6â â â Gweled dan fedw ein gwely.
7â â â Drud yw'r serch: mau drydar sôn.
8â â â Drudaniaeth a dry dynion.
9â â â Dugum-ai gefyn digawn?-
10â â â Draean nos hynt druan iawn
11â â â Ar oddef cael, hael heulfodd,
12â â â Cusan bun. Cawswn ei bodd.
13â â â Dros ffordd gyfraith yr eithum.
14â â â Dall y nos ar foelrhos fûm
15â â â Neithwyr, hirffordd gam orddu,
16â â â Fal Trystan am feingan fu.
17â â â Llawer trefn, agen gefnir,
18â â â A gerddais i, gwrddwas hir.
19â â â Cerddais ar draws naw cardden
20â â â Ac ar hyd moelgaerau hen;
21â â â Oddi yno i ddinas
22â â â Ellyllon, cyfeillion cas.
23â â â Cyrchais o'r dinas glasfawr
24â â â Corsydd ar ael mynydd mawr.
25â â â Tywyllawdd, ni bu hawdd hyn,
26â â â Y morben du i'm erbyn
27â â â Fel petwn, frwydr dalgrwn frad,
28â â â Yng nghanol geol gaead.
29â â â Ymgroesais, afledneisfloedd,
30â â â A rhywyr oll, rhy oer oedd.
31â â â Dysgais, oerais yn aruthr,
32â â â Gywydd i gyweithydd uthr,
33â â â Cannog risg mewn aur wisg-gaen,
34â â â A fu yn y gerwyn faen.
35â â â Minnau yw'r ail am annawn
36â â â Yn y gors wenwynig iawn.
37â â â Addo myned, ged gydfach,
38â â â Landdwyn er fy nwyn yn iach.
39â â â Ni chwsg Mab, grair arab gred,
40â â â Mair Wyry pan ro mawr wared.
41â â â Gweles faint poen bardd gwiwlym.
42â â â Gwyl fu Dduw. Goleuodd ym,
43â â â Canhwyllau cecs, deuddegsygn,
44â â â Cafod deg rhag gofid dygn,
45â â â Syberw fuan ymddangos,
46â â â Sêr i ni, sirian y nos.
47â â â Gwyl loyw fu eu goleuaint,
48â â â Gwreichion goddaith saith o'r saint;
49â â â Eirin fflam oer anoff loer,
50â â â Aeron rhylon y rhewloer;
51â â â Cilchwyrn lleuad celadwy,
52â â â Cynhwyllion hinon yn' 'nhwy;
53â â â Llewych gorddgnau y lleuad,
54â â â Lliw bron tes, llwybrau ein Tad;
55â â â Arwydd cyffredin hindda,
56â â â Eryr pob ardymyr da;
57â â â Drych callestr, haul goleulawr,
58â â â Drychau dimeiau Duw mawr;
59â â â Glwys ruddaur glasrew oddef,
60â â â Gemau crwper nifer nef.
61â â â Cywraint bob ddwy y'u pwywyd,
62â â â Cadgamlan wybr lydan lwyd;
63â â â Heulwen i ni hoelion ais
64â â â Hyd y nef, oed anofais.
65â â â Nis dymchwel awel ewybr
66â â â O'u pill dyllau ebill wybr.
67â â â Maith eu gogylch, nis gylch gwynt,
68â â â Marwydos wybr mawr ydynt.
69â â â Gwerin ffristiol a tholbwrdd,
70â â â Claer eu gwaith, clawr awyr gwrdd.
71â â â Nodwyddau, mi a'u diddawr,
72â â â Gwisg pen y ffurfafen fawr.
73â â â Hyd neithiwyr, bellwyr balloed,
74â â â Grymsi ni wybûm i ermoed.
75â â â Mawl goleulwys, mâl gloywlwybr,
76â â â Meillion ar wynebion wybr.
77â â â Gwnaethant les o'u hanes hwyr,
78â â â Gild y rhew, goldwir awyr,
79â â â Canhwyllau cwyr can hallawr
80â â â Ar ober maith yr wybr mawr.
81â â â Da y gwyl baderau Duw gwyn
82â â â Ar ei lanastr heb linyn.
83â â â Dangosasant bant o bwyll
84â â â A bryn ym obry'n amwyll,
85â â â Y ffyrdd i Fôn a'r ffordd fau.
86â â â Fy meddwl oll, Duw, maddau.
87â â â Deuthum cyn huno hunyn,
88â â â Gwawr ddydd, i lys gorau ddyn.
89â â â Ni focsachaf o'm trafael
90â â â Eithr hyn, ddyn uthr hael:
91â â â Taro'r fwyall gyfallwy
92â â â Yn ochr y maen ni chair mwy.