Y Sêr
Yn enw Duw, fy nghariadferch, y mae'n rhaid i mi
[wrth] y llwyni sy'n drwchus [gan dyfiant] mis Mai eleni
rhag [gorfod] cerdded y llechweddau, nid yw hynny'n beth
gweddus,
4 a'r gelltydd, fy merch hardd ei gwallt;
[rhaid] ymddifyrru fel hyn fry yn y bryniau
[a] gweld ein gwely dan y llwyni bedw.
Y mae serch yn beth drudfawr: yr wyf yn llawn swn a
siarad.
8 Bydd traul yn newid dynion.
Euthum ar daith druenus iawn a barhaodd draean nos
(onid yw hyn yn rhwystr digonol?)
gan fwriadu cael, un hael a'i gwedd megis yr haul,
12 cusan y lodes. Yr oedd hi wedi cydsynio.
Croesais y ffordd swyddogol.
Neithiwr bûm megis un dall a hithau yn nos
ar rosdir agored [ac ar] ffordd faith a throellog a thra thywyll
16 fel y bu Trystan oherwydd [ei serch at] un osgeiddig, bryd
golau.
Cerddais heibio sawl bwthyn [ar] gefnen hir ac anwastad,
llanc tal a grymus [ydwyf].
Cerddais ar draws lliaws o gaeau
20 a heibio sawl bryngaer hynafol;
oddi yno i gaer
bwbachod, cydnabod cas.
O gaer lwydaidd ac oer
24 euthum i gyfeiriad y tir corslyd ar gyrion mynydd uchel.
Ni bu'r daith hon yn un hawdd.
Tywyllodd y pentir tywyll fel yr oeddwn yn mynd i'r cyfeiriad
hwnnw
fel pe bawn yng nghrombil carchar caeedig,
28 helynt yn sgil brad sydyn.
Gwneuthum arwydd y Groes ond yr oedd yn rhy hwyr o lawer.
[Gwneuthum] ebychiad anweddus, un llawn dicter.
Gwylltiais yn enbyd
32 a deellais gerdd am gymar rhyfeddol,
un a'i gen megis rhisg a haen o aur yn wisg amdano,
a fu yn y piser maen.
Cyffelyb wyf finnau oherwydd [fy] anffawd
36 yn y gors hynod o wrthun.
Addewais yr awn i Landdwyn pe câi fy mywyd ei arbed,
taliad sicr.
Nid yw Mab Mair Forwyn yn hepian pan rydd waredigaeth
ryfeddol,
40 y trysor [hwn] y mae'r ymddiried ynddo yn ddiffuant.
Gwelodd pa mor eithafol oedd helynt y bardd hardd a bywiog [ei
awen].
Bu Duw yn dirion. Goleuodd er fy mwyn
(canhwyllau o gyrs, deuddeg arwydd y sidydd,
44 cawod brydferth rhag [bod] gofid blin)
sêr ar ein cyfer, ceirios y nos,
yn urddasol ac yn fuan y bu iddynt ymddangos.
Bu eu goleuni megis uchelwyl ddisglair,
48 gwreichion coelcerth saith o saint;
eirin sy'n fflamio [ac sy'n gymheiriaid i'r] lleuad oer ac
anhyfryd,
aeron serchus y lleuad rhewllyd;
chwarennau'r lleuad sy'n chwarae mig,
52 hadau'r tywydd teg ydynt;
tywyniad cnau bras y lleuad,
goleuni llethr gwresog, llwybrau ein Duw;
arwydd arferol tywydd teg,
56 eryr sy'n dynodi hindda bob tro;
gwedd carreg dân, haul sy'n goleuo'r ddaear,
gwedd dimeiau Duw mawr;
darnau aur hardd a disglair sy'n gallu goddef y rhew milain,
60 gemau pedrain llu'r nefoedd.
Hoeliwyd hwy fesul dwy yn eu lle yn gelfydd,
cadgamlan y ffurfafen lydan, lwyd;
Heulwen ar ein cyfer yw'r hoelion tarian
64 ar hyd y ffurfafen, trefniant y dyfnder.
Ni fydd awel yr wybren
yn dymchwel pinnau'r ffurfafen o'r tyllau y sodrwyd hwy ynddynt.
Maith yw eu cwmpas, ni fydd y gwynt [ychwaith] yn eu curo,
68 gwreichion y ffurfafen fawr ydynt.
Gwerin ffristial a thawlbwrdd,
tirion yw eu llafur, bwrdd y nen gadarn.
Nodwyddau, y mae gennyf feddwl uchel ohonynt,
72 gwisg pen y ffurfafen fawr.
Hyd at neithiwr [ar] oed aflwyddiannus [ar siwrnai] faith gyda'r
hwyr
ni chefais erioed brofiad o fendith fawr [Duw].
[Testun] moliant yw'r goleuni prydferth, darnau arian yr wybren
ddisglair,
76 meillion ar wyneb yr wybren.
Gwnaethant gymwynas trwy eu gweithred gyda'r hwyr,
arlliw disglair [megis] rhew, edafedd euraid yr awyr,
canhwyllau cwyr cant o allorau
80 ar yr wybren fawr, helaeth ei gwneuthuriad.
Gwych yng ngolwg Duw sanctaidd yw ei baderau
blith draphlith heb linyn [i'w cysylltu].
Yn eu doethineb dangosasant imi
84 bant a bryn [a minnau] isod yn ddi-glem
[ynghyd] â'r ffordd i Fôn a'm ffordd innau.
Maddau, Dduw, fy holl amcanion.
Deuthum gyda'r wawr i lys y lodes lanaf
88 cyn [i mi] gael unrhyw gyfran o gwsg y noson.
Nid wyf am ymffrostio yn sgil fy nhaith,
y lodes hael a hynod, ond [dywedaf] hyn:
ni cheir [mohonof] mwyach
92 yn taro'r fwyall finiog yn erbyn carreg.