kowydd y dowyll nos
1 rho dvw ymvn mae n rhaid imi
2 o lwynav mai y leni
3 gerdded goriwared gwiw
4 a gelldydd fy nyn gwalldwiw
5 kyn yfed llyn ar fryn fry
6 gweled dan fedw yn gwyly
7 drvd yw r serch mav drydar son
8 drdaniaeth a dry dynion
9 dvgvm mav gyfvn digawn
10 dravan nos hynt drvan iawn
11 ar oddef kael hael hevlfodd
12 kvsan bvn kowsswn oi bodd
13 dros ffordd gyfravth yr avthvm
14 dall y nos ar foelrhos fvm
15 neithwyr hirffordd gam oerddv
16 fel trystan am feingan fv
17 [60r] llawer trefn fased gefnir
18 a gerddais i gyrddwas hir
19 kerddais ar hyd naw kardden
20 ag ar hyd moel gorsvdd hen
21 ag oddyno i ddinas
22 y ellyllon kyfeillion kas
23 kyrchais or dinas glas fawr
24 gorsydd ar ael mynydd mawr
25 towyllawdd ni bv hawdd hyn
26 y morben dv im erbyn
27 fal petwn frwdr dalgrwn frad
28 ynghanol geol gavad
29 ymgroesais aflednais-floedd
30 rhowyr oll a rhy oer oedd
31 dysgais oerais yn arvthr
32 gowydd y goddevthydd vthr
33 kanawg wisg mwy oer wisgaen
34 a fv yn y gerwyn faen
35 minav yw r ail am anawn
36 yn y gors wenwynig iawn
37 addaw myned ged gydfach
38 i landdwyn er fy nwyn yn iach
39 ni chwsg mab grair arab gred
40 mair wyrf pan ro mawr wared
41 [60v] gweled faint poen mab gwilym
42 gwyl fi ddww golevodd ym
43 kanhwyllav kegks devddegsygn
44 kafod teg rhag gofid dygn
45 syber fvan ym ddangos
46 ser ini sirian y nos
47 gwyl loew fi i golevfaint
48 gwreichion goddaith saith o saint
49 eirin fflam oer anoff loer
50 aeron rhylon y rhewloer
51 kilchwyrn llevad keladwy
52 kanwyllion hinion yn hwy
53 llewych orddgnav y llevad
54 lliw bron teg bwybr yn tad
55 arwydd kyffredin hindda
56 eryr a rydd dymyr da
57 drych kenllysg havl golavlawr
58 drychav dimeiav duw mawr
59 glwys rvddavr glas rew oddef
60 gemav krwper ner o nef
61 kowrain bob ddwy i pwywyd
62 kad gamlan wybr lydan lwyd
63 hwylwen i hoelion ais
64 hvd y nef hoed a nofiais
65 [61r] nis ymchwel awel ewybr
66 oi pill tyllav ebill wybr
67 mawr ogylch ni sigl gwynt
68 marwydos wybr mawr ydynt
69 gwerin ffrvstiol a tholbwrdd
70 klaer i gwaith klawr awyr gwrdd
71 nodwyddav mi ai diddawr
72 gwisg pen y ffvrfafen fawr
73 hyd neithwyr bellwyr balloed
74 grymsi ni bvm i er moed
75 mawl glavlwys mal golavlwybr
76 meillion ar wynebion wybr
77 gwnaethant les oi hanes hwyr
78 gild i rew gold or awyr
79 kynhwyllav kwyr kan hallawr
80 ar osber maith or wybr mawr
81 da i gwyl bederav dvw gwyn
82 ar i lanestr heb linyn
83 dangos asant bant o bwyll
84 a bryn ym obrv n amwyll
85 a ffyrdd i fon a ffordd fav
86 fy meddwl oll ddvw maddav
87 doethvm kyn hvno o honvn
88 gwawr ddydd i lys gowir ddyn
89 ni fogksachaf om trafael
90 o nevthvr hyn ddyn vthr hael
91 taro r fwyall gyfallwy
92 yn ochor y maen ni chair mwy
dafydd ap gwilym