â â â Y Ceiliog Du
1â â â Cydag ieir cai dy garu,
2â â â Y ceiliog dewr â'r clog du,
3â â â Cwrelael yn caroli,
4â â â Cyfliw ei bais cwfl y bi;
5â â â Cydwr fry coedieir y fron,
6â â â Cwbl ei amod, cyw blowmon;
7â â â Castellwr, diddanwr dyn,
8â â â Casulwydr edn ceseilwyn;
9â â â Ysgutull yn cynnull cad,
10â â â Esgud wybr, ysgod abad;
11â â â Ysgwl du ym mlaen osgl dâr,
12â â â Esgoblun mewn ysgablar;
13â â â Delw eglwyswr dail gleision,
14â â â Deilwr, brawd bregethwr bron.
15â â â Dy lifrai o'r mwrrai main:
16â â â Dwy lawes dew o liain.
17â â â Dwbled yt, o blu y dôn',
18â â â Dwyael dy fentyll duon.
19â â â Crefyddwisg yt a wisgwyd
20â â â Crefydd serch, crefyddus wyd.
21â â â Ni mynny, ben-ymwanwr,
22â â â Bwyd y dydd ond bedw a dwr-
23â â â Bwyd o frig coed bedw y fron,
24â â â Bwyd ieir fydd mewn bedw irion.
25â â â Dy waith yw dwywaith bob dydd
26â â â Er eu mwyn, ieir y mynydd,
27â â â Yn ael coed cynnal cadoedd
28â â â Â rhif gwyr, tra rhyfyg oedd.
29â â â Gwyddost gyfran ar lannerch
30â â â Holl geinciau mesurau serch.
31â â â Beiddiwr aer, bydd yr awron
32â â â Latai ym at eiliw ton.
33â â â Cyfeiria acw yfory
34â â â Y dwyrain dan doryn du
35â â â Oni ddelych i ddolydd
36â â â Dyffryn gwaisg addwyn a gwydd,
37â â â A phrif afon, ffyrf ofwy,
38â â â A ran y ddôl wair yn ddwy,
39â â â A dail yn lled, eilio'n llawn,
40â â â Ac adar gogyfoediawn.
41â â â Disgyn, edn, dos, genhadwr,
42â â â O lwyn dail i lan y dwr.
43â â â Gwyl o'r coed, gwylia, wr cain,
44â â â Hael dewr, am haul y dwyrain.
45â â â Degle'n nes, dwg i liw nyf
46â â â Ddeg annerch oddi gennyf.
47â â â Dan arwydd ddoe, dawn i'r ddyn,
48â â â Arch ym, y mau orchymyn,
49â â â Yn y llan ei charu dan llaw
50â â â Ac o beth ei gobeithiaw.
51â â â Dywaid i wen liw 'sblennydd
52â â â Deled i oed, eiliw dydd.
53â â â Os daw hi, nos da i'w hwyneb,
54â â â I fynydd, ni wybydd neb.