Y Ceiliog Du
Cei dy garu ynghyd â'r ieir,
y ceiliog dewr â'r clogyn du,
[yr un] a'i aeliau [megis] cwrel yn pyncio,
4 unlliw â chwfl y bioden yw ei bais;
cymar ieir coed y llechwedd uchod,
llwyr [yw ei] ymrwymiad, cyw [megis] dyn du;
ceidwad caer, un sy'n diddanu merch,
8 aderyn a chanddo geseiliau gwynion a chasul disglair;
barcud sy'n dwyn llu yngyhyd,
[un] bywiog y ffurfafen, delw abad;
ysgwl du ar flaen brigau'r dderwen,
12 ffurf esgob mewn ysgablar;
delw eglwyswr [yng nghanol y] dail iraidd,
un a'i gynefin yn y dail, brawd bregethwr y llechwedd.
[Gwnaed] dy lifrai o fwrrai tenau
16 [a gwnaed dy] ddwy lawes drwchus o liain.
Dwbled [sydd] i ti, o blu y'u gwnaed,
[sef] dwy ochr dy fentyll duon.
Gwisg eglwysig a wisgwyd amdanat
20 [yng ngwasanaeth] crefydd serch, un defosiynol wyt.
Ni fynni, y pen-ymladdwr,
fwyd yn ystod y dydd ond dwr a choed bedw:
[cei] fwyd ar frig coed bedw y llechwedd,
24 bydd bwyd yr ieir yn y coed bedw iraidd.
Dwywaith bob dydd dy waith ydyw,
er eu lles, ieir y mynydd,
cynnal brwydrau yng nghyrion y coed
28 â lliaws o wyr, beiddgar iawn ydoedd [hyn].
Ar y maes gwyddost gyfran
o holl alawon a mesurau serch.
Anturiwr [mewn] brwydr, bydd yn awr
32 yn llatai ar fy rhan at [un ac iddi] ffurf y don.
Dos acw i'w chyfeiriad yfory
i'r dwyrain o dan doryn du
nes i ti gyrraedd dolydd
36 dyffryn disglair a hawddgar a choed,
ac afon amlwg, ymweliad cadarn,
sy'n hollti'r ddôl wair yn ddwy,
a dail ar ei hyd wedi eu plethu yn drwyadl
40 ac adar yn gymheiriad cyfartal.
Disgyn, yr aderyn, dos, y negesydd,
o lwyn deiliog hyd lan y dwr.
Edrych oddi ar y coed, a bydd yn ofalus, y gwr
gosgeiddig,
44 [un] hael a dewr, am haul y dwyrain.
Tyrd yn nes, dwyn i liw'r eira
ddeg o gyfarchion oddi wrthyf.
Yn dilyn arwydd [a wnaed] ddoe, rhodd i'r ferch,
48 archiad sydd gennyf, fy ngorchymyn [i ti]:
[sef dweud fy mod] yn ei charu yn ddirgel yn y llan
ac yn gobeithio ei hennill yn y diwedd.
Dywed wrth y ferch ddisglair ei gwedd
52 am ddod i gynnal oed, ffurf [goleuni'r] dydd.
Os daw, [rho] gyfarchion yn ei gwydd,
i fyny yma, ni chaiff neb wybod dim.