cowydd dyfaliad ir ceiliog coed neu ffesant
1 Gidag iair i gydgaru {cai dy garu}
2 y ceiliog dewr ar clog du
3 cwrel-ael yn carol-li
4 cyfliw i bais cwfl y bi
5 cydwr fry coed iair y fron
6 cwbwl o amod ciw blowmon
7 castellwr diddanwr dyn
8 casy{u}lwerdd edn ceseilwyn
9 yscyckyll yn cynyll cad
10 esgyd wybr ysgod Abad {ysgod}
11 [169v] ysgwl dy{u} mlaen osgol dar {ysgwl}
12 ysgoblun mewn ysgablar {ysgoblyn}
13 delw eglwyswr dail gleision {ysgablar}
14 deilwr brawd pregethwr bron
15 dylifre or mwre main {mwre = mwrai murrey}
16 dy lawes o dew liain
19 crevyddwisc yt a wy{i}scwyd
20 crefydd serch crefyddus wyd
21 ni mynnyd ben ymwanwr
22 bwyd y dydd ond bedw a dwr
23 bwyd o frig coed bedw y fron
24 bwyd iair mewn bedw irion
25 dy waith fydd dwywaith bob dydd
26 er i mwyn iair y manwydd
27 yn ael coed cynnal cadoedd
28 a rhif gwyr tra rhyfig oedd
29 gwyddost gyfran a llannerch
30 holl gampau mesurau serch
31 beiddiwr aer bydd yr owron {aer yw terfysc ne brwydr}
32 lattai teg at eiliw
y ton
33 cyfeiria ackw y fory{u}
34 y dwyrain deg ederyn dy{u} {dan dovyn dy}
35 oni ddelych i ddolydd
36 a dyffryn gweddeiddwyn gwydd
37 a phrif afon fferf fwyfwy
38 a ran y ddol wair yn ddwy
41 disgyn edn dos gennadwr
42 ar lwyn dail ar lann y dwr
43 gwyl or coed gwilia wr cain
44 hael dewr am haul y dwyrain
45 degle'n nes dwg i liw Nyf {cariad Peredur ap Efroc}
46 ddeg annerch oddi gennyf
47 dan arwydd ddoe (dawn ir ddyn)
48 erchi ym i gorchymyn
49 [170r] yn y llann{Llwyn} a charu dan llaw
50 ag o beth i gobeithiaw
51 dowaid i wen ysplennydd
52 deled i oed deuliw dydd
53 os daw hi nos da'w hwyneb {da'w pro da i'w}
54 myn y nydd ni wybydd neb
dafydd ap gwilim ai cant mi a welais. 1572 hen wraic a welsai un
arall a fyssai'n ymddiddan a Dafydd ap gwilym. hirfain oedd ef a gwallt llaes
melyngrych oedd iddo a hwnw yn llawn cayau a modrwyau arian, meddai hi