â â â Y Frân
1â â â Y frân dreigl ymwan draw,
2â â â Ylfingorn ddiwyl fangaw,
3â â â Dwygoes gadr, digwsg ydwyd,
4â â â Da ei modd, edn du, ym wyd
5â â â Dra fych ar bren gwyrennig
6â â â Fry yn eithafion ei frig.
7â â â Wedy cael, afael ufudd,
8â â â Gwâl o'r dail, da gwely'r dydd,
9â â â Ni'm caiff Eiddig, ddig ddeugwyn,
10â â â Yng nghyd â gwyn fy myd mwyn,
11â â â Trwsa hydr traws ehedeg,
12â â â Tra fych di, trofa wych deg
13â â â Yng nghefn coed bedw yn ddedwydd,
14â â â Fy mrân, yn darogan dydd.
15â â â Cwyn is teml, cenaist ymy
16â â â Cyn y dydd rhag cwyn o dy,
17â â â Ac erchi drwy naw gorchest
18â â â Ym ffo i wrth f'eurddyn yn ffest.
19â â â Nawdd Fair arnad i'th adu,
20â â â A'th blas, cywair wyd, i'th blu
21â â â Rhag brwydr, rhag ynni llwydrew,
22â â â Rhag llam cocsud, rhag glud glew,
23â â â Rhag magl o linyn tragloyw
24â â â Yrhawg am yr esgair hoyw,
25â â â Rhag pell affaith pwyll offol,
26â â â Rhag pen bollt bedwarollt bôl,
27â â â Rhag gwenwyn wybr gorwybrbleth,
28â â â Rhag pwyo poen, rhag pob peth.
29â â â Ni cheisud pan fynnud fudd,
30â â â Goeg na chêl, gig na choludd.
31â â â Haws gennyd drwy naws gynnydd
32â â â Ar dasg bob amser o'r dydd
33â â â Pigo'r gwenith cyn rhithiaw
34â â â I drais oddi ar y cae draw.