Y Frân
Y frân ar gyrch ymosodol draw acw
a'i phig a'i chorn gwddf yn amlwg huawdl,
dwy goes gref [sydd gennyt], bywiog ydwyt,
4 da yw dy ymarweddiad er fy mwyn, yr aderyn du,
tra byddi ar goeden iraidd
uwchben yn y brigau uchaf.
Wedi [i mi] gael, parod [yw'r] cofleidio,
8 gwely o'r dail, gweli'r gwawrio yn glir,
ni chaiff Eiddig fy nal, [achos] cwyn a dicter helaeth,
yn cyfathrachu â'm hanwylyd tirion,
sypyn cadarn a'i hedfan grymus,
12 tra byddi di, trefniant gwych a theg
a dedwydd yng nghysgod y coed bedw,
fy mrân, yn rhag-weld dyfodiad y dydd.
Testun siom yn nheml [y llwyn], gelwaist arnaf
16 cyn iddi wawrio ac er mwyn osgoi cwyn o'r cartref,
a gofynnaist imi heglu ar frys oddi wrth fy nghariadferch o bryd
golau
gan elwa ar bob camp a feddwn.
Bydded i Fair dy ddiogelu a'th gadw,
20 a'th lys, yn holliach, un drefnus wyt,
rhag brwydr, rhag llid yr oerfel,
rhag anffawd [mewn] gornest saethu, rhag glud tyn,
rhag magl a'i llinyn llachar
24 maes o law am dy goes brydferth,
rhag canlyniadau pellgyrhaeddol cynllwyn creulon,
rhag saeth a'i blaen chwarterog dideimlad,
rhag pla o gymylau brodiedig y ffurfafen fry,
28 rhag poen trwy ergyd, rhag pob perygl.
Pan fyddi yn deisyf gwobr, ni fyddi yn ceisio
na chig nac ymysgaroedd, paid â chuddio dy falchder.
Haws i ti trwy reddf sy'n sicrhau ffyniant,
32 [a hynny] bob adeg o'r dydd [pan fyddi] wrth dy waith,
bigo'r gwenith yn dreisgar
oddi ar wyneb y tir cyn iddo ddechrau egino.