ko: i ganmol y frân
1 y vran dreigl ymwan draw
2 ylvingorn ddiwyl vangaw
3 dwy goes gadr digwsg ydwyd
4 dai modd edn du ym wyd
5 dra vych ar brenn gwyrennig
6 vry yn eithafion i vrig
7 wedy cael avael vfydd
8 gwal o'r dail da i gweli'r dydd
9 ni'm caiff eiddig ddig ddevgwyn
10 ynghyd a gwyn y myd mwyn
11 trwsa hydr traws ehedeg
12 tra vych di trova wych deg
13 ynghefn coed bedw yn ddedwydd
14 vy mran yn darogan dydd
15 cwyn is teml ceneist ymy
16 cynn y dydd rhac cwyn o duy
17 ag erchi drwy naw gorchest
18 ym ffo ywrth v'eurddyn yn ffest
19 nawdd Vair arnad ith adu
20 ath blas cywair wyd ith blu
21 rhag brwydr rhag ynni llwydrew
22 rhag llam Cocsud rhag glud glew
23 rhag magl o linin tragloew
24 yrrhawg am yr esgair hoew
25 rhag pell affaith pwyll offol
26 rhag penn bolld bedwarolld bol
27 rhag gwenwyn wybr gorwybrbleth
28 rhag pwyo poen rhac pob peth
29 ni cheisud pan vynud vudd
30 goeg na chel gig na cholydd
31 haws genyd drwy naws gynnydd
32 ar dasg bob amser or dydd
33 pigo'r gwenith cynn rhithiaw
34 idrais o ddiar y cae draw
Dauid ap Glm'