kywydd y fran dyddyn
1 y fran dreigl ymwan draw
2 elfingorn ddiwyl fangaw
3 dwy goes gadr di gwsg ydwyd
4 da i modd edn dv ym wyd
5 dra fych ar bren gywyrenig
6 fry yn eithofion i frig
7 wedi kael afael ufydd
8 gwal or dail da i gweli r dydd
9 ni'm kaiff eiddig ddig ddevgwyn
10 ynghyd a gwyn ymyd mwyn
11 trwsa hydr traws hedeg
12 tra fych di trofa wych deg
13 ynghefn koed bedw ddedwydd
14 y fran yn drogan y dydd
35 proffwydes abades bvr
36 klog werthiog keiliog arthvr
15 kwyn is deml kenaist ymy
16 kyn y dydd rhag kwyn o dy
17 Ag erchi drwy naw gorchest
18 ym ffo oddiwrth fevrddyn yn ffest
19 nawdd fair arnad ith adv
20 ith blas kywir wyd ith blv
21 rhag brwydr rhag ynni llwydrew
22 rhag llam kogksvd rhag glvd glew
23 rhag magl o linin tragloew
24 yrhawg am yr esgair hoew
25 rhag pell affaith pwyll offol
26 rhag pen bolld bedwarolld bol
27 rhag gwenwyn wybr gorwybrbleth
28 rhag pwyo poen rhag pob peth
29 ni cheisvd pan fynvd fvdd
30 goeg na chel gig na cholvdd
31 haws genyd drwy naws gynydd
32 Ar dasg bob amser or dydd
33 pigo r gwenith kyn rhithiaw
34 i drais oddiar y kae draw
dafydd ap gwilym