â â â Y Gog
1â â â 'Dydd da yt, y gog serchogfwyn
2â â â Ei llais ar ganghenfrig llwyn,
3â â â Cloc y dail, clicied aelaw,
4â â â Cloch aberth y drawsberth draw.
5â â â P'le buost, edn diwednlais?
6â â â Pa wlad bell? Plu yw dy bais.'
7â â â 'Bûm ynglyn megis dyn dall
8â â â Bedeiroes mewn byd arall.
9â â â Claf fûm a gwan o anun,
10â â â Collais fy harddlais fy hun.
11â â â Sefyll dan yr irgyll 'rwyd,
12â â â Myn Pedr, ni wn pwy ydwyd.'
13â â â 'Myfi yw'r bardd digrifair
14â â â Mawrserch fryd, myn mawlbryd Mair,
15â â â A'th yrrodd, ni'm gwahoddes,
16â â â Wtla o'r tir, at eiliw'r tes.'
17â â â 'Henwa, ddyn ffraeth hiraethnych,
18â â â Henw'r Gymraes walltlaes wych.'
19â â â 'Hawdd y medrwn, gwn ganclwyf,
20â â â Henwi gwen, dihunog wyf:
21â â â Es ac Ef a llythr hefyd,
22â â â En ac A, dwg hynny i gyd.'
23â â â 'Erchis gwen, eurchwys ei gwallt,
24â â â D'annerch dan frig bedwenallt.'
25â â â 'Moes arwydd - drwg y'm llwyddwyd,
26â â â Madws oedd, ai mudes wyd? -
27â â â Y ddyn, llawer annerch a ddwg,
28â â â Fain oedd wyl, fwynaidd olwg.'
29â â â 'Hir y byddwn, gwn gellwair,
30â â â Ar frig llwyn yn gorllwyn gair,
31â â â Oni ddoeth, byd hagrnoeth hyll,
32â â â Od tew a gaeaf tywyll.
33â â â Euthum gan oerwynt trumnoeth
34â â â Gyda'r dail, gwiw awdur doeth.'
35â â â 'Mae'r arwydd o'r mawr arail,
36â â â Y gog adeiniog o'r dail?'
37â â â 'Cyffylog anserchogfwyn,
38â â â Coch westai, addawsai'i ddwyn
39â â â Pan oedd - och arwain pìn iâ! -
40â â â Du y dom, yn dywod yma.'
41â â â 'Pa bryd y doeth, gyw noethfrych?'
42â â â 'Gwyl y Grog i gil y gwrych.'
43â â â 'Ynfyd fu â'i anfad fêr,
44â â â Ysgeulus edn ysgeler.
45â â â Gwn ei ladd, llid ergydnerth,
46â â â Gwr â bollt dan gwr y berth.
47â â â Dwg hediad, deg ei hadain,
48â â â Dos eilwaith at f'anrhaith fain.
49â â â Dwg hi dan frig coedwig cyll,
50â â â Disgyn dan ledu d'esgyll.
51â â â Lateies, dwg gae Esyllt,
52â â â Loywlais wawd, ferch liwlas wyllt.
53â â â Dyro, a hed ar fedwlwyn,
54â â â Lythr i'r ferch lathrair fwyn.
55â â â Dywaid erchi, f'enaid ferch,
56â â â Ohonof fi ei hannerch.
57â â â Swn cloc mewn perth, ni'th werthir,
58â â â Swyddoges gwydd hafddydd hir.
59â â â Anwybod wyd, gog lwydfain,
60â â â A neawdr wyd yn y drain.
61â â â Hed o fedwen ganghenlas
62â â â Ar bren plan garbron y plas.
63â â â Mwyn o drebl, myn di rybudd
64â â â I'r eurloer deg ar liw'r dydd,
65â â â A dwg wen eurwallt bennoeth
66â â â Allan i 'mddiddan, em ddoeth.
67â â â O berth i berth anferthol
68â â â Minnau a ddo' hyd yno'n d'ôl.
69â â â Drwy dy nerth di a'r Rhiain,
70â â â Dygwn y ferch deg wen fain.'