Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(img)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigY Gog'Dydd da yt, y gog serchogfwyn Ei llais ar ganghenfrig llwyn, Cloc y dail, clicied aelaw, Cloch aberth y drawsberth draw. P'le buost, edn diwednlais? Pa wlad bell? Plu yw dy bais.' 'Bûm ynglyn megis dyn dall Bedeiroes mewn byd arall. Claf fûm a gwan o anun, Collais fy harddlais fy hun. Sefyll dan yr irgyll 'rwyd, Myn Pedr, ni wn pwy ydwyd.' 'Myfi yw'r bardd digrifair Mawrserch fryd, myn mawlbryd Mair, A'th yrrodd, ni'm gwahoddes, Wtla o'r tir, at eiliw'r tes.' 'Henwa, ddyn ffraeth hiraethnych, Henw'r Gymraes walltlaes wych.' 'Hawdd y medrwn, gwn ganclwyf, Henwi gwen, dihunog wyf: Es ac Ef a llythr hefyd, En ac A, dwg hynny i gyd.' 'Erchis gwen, eurchwys ei gwallt, D'annerch dan frig bedwenallt.' 'Moes arwydd - drwg y'm llwyddwyd, Madws oedd, ai mudes wyd? - Y ddyn, llawer annerch a ddwg, Fain oedd wyl, fwynaidd olwg.' 'Hir y byddwn, gwn gellwair, Ar frig llwyn yn gorllwyn gair, Oni ddoeth, byd hagrnoeth hyll, Od tew a gaeaf tywyll. Euthum gan oerwynt trumnoeth Gyda'r dail, gwiw awdur doeth.' 'Mae'r arwydd o'r mawr arail, Y gog adeiniog o'r dail?' 'Cyffylog anserchogfwyn, Coch westai, addawsai'i ddwyn Pan oedd - och arwain pìn iâ! - Du y dom, yn dywod yma.' 'Pa bryd y doeth, gyw noethfrych?' 'Gwyl y Grog i gil y gwrych.' 'Ynfyd fu â'i anfad fêr, Ysgeulus edn ysgeler. Gwn ei ladd, llid ergydnerth, Gwr â bollt dan gwr y berth. Dwg hediad, deg ei hadain, Dos eilwaith at f'anrhaith fain. Dwg hi dan frig coedwig cyll, Disgyn dan ledu d'esgyll. Lateies, dwg gae Esyllt, Loywlais wawd, ferch liwlas wyllt. Dyro, a hed ar fedwlwyn, Lythr i'r ferch lathrair fwyn. Dywaid erchi, f'enaid ferch, Ohonof fi ei hannerch. Swn cloc mewn perth, ni'th werthir, Swyddoges gwydd hafddydd hir. Anwybod wyd, gog lwydfain, A neawdr wyd yn y drain. Hed o fedwen ganghenlas Ar bren plan garbron y plas. Mwyn o drebl, myn di rybudd I'r eurloer deg ar liw'r dydd, A dwg wen eurwallt bennoeth Allan i 'mddiddan, em ddoeth. O berth i berth anferthol Minnau a ddo' hyd yno'n d'ôl. Drwy dy nerth di a'r Rhiain, Dygwn y ferch deg wen fain.'