Y Gog
'Dydd da iti'r gog serchus a mwyn
ei llais ar frig cangen y llwyn,
cloc y dail, clicied ddyfal,
4 cloch offeren y berth braff draw.
Ble buost ti'r aderyn tyner ei lais?
Ym mha wlad bell? Plu yw dy gôt.'
'Bûm yn sownd fel dyn dall
8 am bedair oes mewn byd arall.
Bûm yn glaf ac yn wan gan ddiffyg cwsg,
collais fy llais hardd fy hun.
'Rwyt ti'n sefyll dan y coed cyll gwyrddion,
12 myn Pedr, ni wn pwy ydwyt.'
'Myfi yw'r bardd difyr ei ymadrodd
a'i fryd ar gariad mawr, myn tegwch clodfawr Mair,
a'th yrrodd (ni wahoddodd hi mohonof,
16 un ar herw o'r fro) at y ferch o liw'r heulwen.'
'Enwa, y dyn huawdl llawn nychdod hiraethus,
enw'r Gymraes wych, laes ei gwallt.'
'Gallwn enwi'r ferch (mae imi gant o glwyfau)
20 yn rhwydd, di-gwsg ydwyf:
S ac E a llythyren arall hefyd,
N ac A, tyrd â'r rheini ynghyd.'
'Gofynnodd y ferch (dafnau aur yw ei gwallt)
24 imi dy gyfarch dan frig gallt o goed bedw.'
'Dyro imi arwydd - gwael yw'r llwyddiant a ddaeth i'm rhan,
mae'n hen bryd, ai mudanes ydwyt? -
y ferch fain (mae'n dwyn cyfarchion lawer)
28 a fu'n addfwyn, un hawddgar ei gwedd.'
''Roeddwn i'n hir ('rwy'n gyfarwydd â chellwair)
ar frig llwyn yn disgwyl gair,
hyd nes y daeth (byd noethlwm hyll)
32 eira tew a gaeaf tywyll.
Euthum yn sgil oerwynt llwm ei wedd
gyda'r dail, awdur teilwng a doeth.'
'Ble mae'r arwydd o'r wyliadwraeth faith,
36 y gog adeiniog o'r dail?'
'Addawodd cyffylog annhirion
ei gludo, yr ymwelydd brithgoch,
pan oedd - gwae fi iddo gludo pìn rhew! -
40 (un du y domen) yn dod yma.'
'Pa bryd y daeth, y cyw brith llwm?'
'Ar Wyl y Grog i gwr y gwrych.'
'Bu'n ffôl â'i bicell anfad,
44 aderyn drwg esgeulus.
'Rwy'n gwybod i wr â bollt (drwy ddicter grym ergyd)
ei ladd dan ymyl y berth.
Hed, yr un deg ei hadain,
48 dos drachefn at f'anwylyd fain.
Tyrd â hi dan frig llwyn o goed cyll,
disgynna dan ledu dy esgyll.
Fy llatai, cluda gae Esyllt,
52 cân ddisglair ei llais, y ferch lwydlas wyllt.
Dyro (a hed ar lwyn bedw)
lythyr i'r ferch lachar fwyn.
Dywed fy mod yn gofyn (f'anwylyd)
56 am gael ei chyfarch.
Swn cloch mewn perth, ni werthir mohonot,
swyddoges coed yr hafddydd hir.
'Rwyt yn anwybodus, y gog lwydfain,
60 a diryw ydwyt yn y drain.
Hed o fedwen wyrdd ei changhennau
ar bren planedig gerllaw'r plas.
Trebl dymunol, myn roi rhybudd
64 i'r lloer euraid deg liw dydd,
a thyrd â'r ferch bennoeth â'r gwallt euraid
allan i ymddiddan, gem ddoeth.
O berth i berth enfawr
68 fe ddof innau draw yno ar dy ôl.
Drwy dy nerth di a'r Forwyn,
fe wnawn ni ddwyn y ferch deg fain welw.'