DGA 47
Lluniwyd y cywydd hwn ar ffurf ymddiddan rhwng y bardd a'r gog. Pan fo'r gog yn dychwelyd gyda'r gwanwyn gofyn y bardd iddi ymhle y bu cyhyd. Etyb hithau iddi fod yn gaeth mewn byd arall lle y collodd ei llais. Caiff ei hatgoffa iddi addo mynd yn llatai drosto at ei gariad, ac wedi iddo sillafu enw'r ferch ar ffurf pos rhaid i'r gog gyfaddef iddi orfod mudo rhag oerfel y gaeaf cyn dwyn ei gorchwyl i ben. Dywed fod cyffylog wedi addo dwyn arwydd serch y gariadferch yn ei lle, ond gŵyr y bardd mai cael ei saethu'n farw fu hanes hwnnw. Gyrrir y gog, felly, yn llatai o'r newydd, gan obeithio ennill y ferch ar yr ail gynnig. Ceir yr un math o ymddiddan ffraeth rhwng Dafydd ap Gwilym a'r cyffylog yn rhif 52, lle y mae'r aderyn yn gwrthod mynd yn llatai drosto gan fod dyn arall wedi achub y blaen arno. Yn debyg i'r cywydd hwnnw a chywydd arall Dafydd i'r cyffylog (53), fel aderyn ffôl ac atgas y gaeaf y caiff ei ddarlunio yn y gerdd hon. Fe'i lladdwyd gan ŵr â bollt, sy'n dwyn i gof rybudd Dafydd yn y cywydd 'Ymddiddan â'r Cyffylog' y dylai osgoi teithiwr  bollt benfras a bwa (52.21).
Mae cynnwys y gerdd, felly, yn ddigon tebyg i gerddi Dafydd i adar, ac fel y sylwodd Thomas Parry, GDG1 clxxvi, mae'r arddull ar y cyfan yn ddigon tebyg i gywyddau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ond fel y sylwodd Parry hefyd, mae'r ffaith ei bod yn ddienw yn y llawysgrif hynaf, sef Pen 57 (lle y tynnwyd llinell drwy bob tudalen o'r gerdd), yn peri amau ei dilysrwydd. Yn Pen 84, sy'n gopi o Pen 57, ceir Ni wn pwy Ai cant. Nododd Parry yn ogystal mai bychan yw nifer y cynganeddion sain. Mewn gwirionedd, nid yw'r ffigwr o 25.5% yn eithriadol o isel, ac mae'r gyfatebiaeth gytseiniol yn anghyflawn mewn dwy o'r llinellau hynny (gw. 19n, 29n), ond nid oes yma'r un enghraifft o sain gadwynog na sain drosgl, mathau o gynghanedd sy'n ddigon cyffredin yng ngherddi dilys Dafydd. Mwy arwyddocaol na hynny yw fod y cynganeddion llusg yn fwy niferus na'r un gynghanedd arall, peth na ddisgwylid ei weld yng ngwaith dilys y bardd. Mae nifer anarferol o uchel o'r rheini yn bengoll, ac mae lle i amau'r odl lusg rhwng hed a fedwlwyn yn ll. 53. Yn ogystal, os mai at gloch cloc mecanyddol cyhoeddus o'r math a ddisgrifir yng nghywydd 'Y Cloc' (64) y cyfeirir yn llau. 3 a 57, mae hynny'n bwrw rhagor o amheuaeth ar awduraeth y cywydd gan nad oedd clociau o'r fath i'w cael ym Mhrydain cyn tua 1370 (gw. nodyn cefndir y gerdd honno). Mae'r iaith ar y cyfan yn debyg i'r hyn a ddisgwylid mewn cywydd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae'r ffurf neawdr (gw. 60n) yn awgrym arall y gallai'r cywydd fod wedi ei ganu rywfaint yn ddiweddarach na chyfnod Dafydd ap Gwilym.
Sylwa Parry ymhellach nad oes enghraifft o sillafu enw'r ferch 'yn yr un o gerddi cwbl ddilys DG, heblaw fod enw'r ferch [sef Annes] yn ddieithr'. Nid yw hynny ynddo'i hun yn rheswm dros wrthod y cywydd; yn wir ceir yr enwau Lleucu Llwyd ac Angharad (sef Angharad wraig Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yn fwy na thebyg, gwrthrych rhif 9 ac, efallai, 122) mewn dau ddarn byr ar fesur cywydd a ychwanegwyd at drydedd haen Llawysgrif Hendregadredd yn ystod ail chwarter y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. GLlBH rhif 15. Ceir enghraifft arall mewn cywydd a wrthodwyd gan Thomas Parry, A163, gw. ib. 156–7, GDG1 clxxxvi. Ynghylch y ddyfais gw. Edwards, DGIA 149.
Cofnodwyd testun Pen 57 mewn llaw anhysbys sy'n perthyn i ddiwedd y bymthegfed ganrif, ac mae nifer o gopïau'n deillio ohono. Ar y testun rhagorol hwn yn bennaf y seiliwyd y golygiad. Dyma'r unig destun a ddiogelodd y cwpled 59–60; yr unig gwpled nas ceir yw 3–4. Yr un fersiwn sylfaenol sydd i'w weld yn Ll 163, ond fod rhai o'r darlleniadau'n cyfateb i'r llsgrau eraill. Mae hynny'n wir hefyd am LlGC 560 sydd, serch hynny, yn cynnwys 3–4 yn ogystal â rhai arwyddion o ailgyfansoddi (gw. 9–10n, 33n). Yr unig wahaniaeth yn nhrefn y llinellau yw fod 65–6 a 67–8 o chwith yn Pen 57. Fe welir bod trefn Ll 163 a LlGC 560 yn fwy ystyrlon yma ac fe'i cadarnheir gan y llsgrau eraill lle y mae 67–8 yn rhagflaenu 69–70.
Fodd bynnag, mae'r drefn yn y llsgrau eraill, sy'n cynrychioli fersiwn gwahanol o'r cywydd, yn bur wahanol yn dilyn ll. 48, ac mae rhai cwpledi'n eisiau. Yn eisiau yn Bl e 1 y mae 19–20 a 59–60, ac mae'r un cwpledi, yn ogystal â 27–8, yn eisiau yn M 161 ac felly hefyd yn nhestun gwreiddiol H 26 lle y mae cwpledi coll wedi eu hychwanegu ar ymyl y ddalen. Perthyn M 146 yn agos i M 161 ond nid yw'n cynnwys 63–4. Mae lleoliad y cwpled hwnnw'n cyfateb i fersiwn Pen 57 yn Bl e 1, yn wahanol i M 161 lle y mae'n dilyn 57–8, a H 26 lle y mae'n dilyn 51–2. Diogelodd Pen 57 amryw o ddarlleniadau anos unigryw, a phrin iawn yw'r mannau lle y mae'r fersiwn arall yn rhagori.
Mae golygiad Helen Fulton, DGA 47, yn seiliedig ar H 26.
Cynghanedd: croes 16 ll. (23%), traws 16 ll. (23%), sain 18 ll. (25.5%), llusg 20 ll. (28.5%) ond gw. 45n.
1–4. Cymh. 34.21–4 Cog yn serchog, os archaf, / A gân ddiwedd huan haf, / Glasgain edn, glwys ganiadaf, / Gloch osber am hanner haf. Ar y gog fel cymorth i gariadon, ac ar y gwrthgyferbyniad rhyngddi a'r cyffylog, gw. Edwards, DGIA 112–15.
1. dydd da yt Cywasger yn ddeusill. Cymh. dydd da ywch > dydd dawch, gw. GPC 1119 d.g. dydd. Ceir y cywasgiad tebyg Dydd daed yn H 26.
2. ei llais Darlleniad Pen 57. Rhydd well ystyr nag ai llais y fersiynau eraill.
3. cloc Cymh. ll. 57 isod. Uniaethir cân eglur y gog, mae'n debyg, â sŵn cloch yn taro'r oriau mewn cloc mecanyddol o'r math a ddisgrifir yng nghywydd 'Y Cloc' (64). Sylwer mai 1370 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf o'r gair Saesneg yn yr ystyr hon, gw. nodiadau rhagarweiniol rhif 64.
clicied Ai rhan o'r mecanwaith sy'n peri taro'r gloch? Rhydd geiriadur John Walters (1770) yr ystyron 'bolt, latch, spring [of a watch, &c.]', gw. GPC2 499. Digwydd yr un trawiad cynganeddol yn nisgrifiad Guto'r Glyn o'i dafod fel Cloc tewfydr, cliced dwyfoch (GGGl IX.15).
aelaw Yn yr ystyr 'gwerthfawr' neu 'hael', efallai, ond mae'r ystyr 'taer, dyfal' a nodir yn betrus yn GPC2 83 yn addas i ddisgrifio cân y gog. Alaw, sef 'lili', sydd yn y llsgrau, ond mae'n ddarlleniad amheus, yn enwedig gan fod y cwpled yn eisiau yn Pen 57. (William Owen Pughe a fathodd yr ystyr 'cerddoriaeth, cainc', gw. GPC2 175 d.g. alaw2.) Mae eiliaw LlGC 560, testun sy'n dwyn perthynas glòs â Pen 57, yn rhyw gymaint o ateg i'r diwygiad.
4. cloch aberth Mae'r eos yn canu cloch aberth, sef cloch offeren, yn 39.30. Disgrifir yr un aderyn fel Cloch aberth y serchogion yn 155.37.
y drawsberth LlGC 560 dyrysberth.
5. diwednlais Trodd y darlleniad anodd hwn, a geir yn Pen 57, yn prif lednais neu prudd lednais ym mwyafrif y llsgrau; Ll 163 diwydlais, llygriad sy'n colli'r gynghanedd lusg.
8. byd arall Annwfn, mae'n debyg, sef yr arall fyd ym mytholeg y Celtiaid. Fe all fod yma adlais o chwedl goll ac mae union arwyddocâd bedeiroes yn dywyll, gw. Edwards, DGIA 122–3. Gellir cymharu hyn â'r hyn a ddywed tywysog yr haf yn 35.39–40 I ochel awel aeaf / I Annwfn o ddwfn ydd af. Digwydd y llinell I ochel awel aeaf am y cyffylog yn 52.17.
9–10. Diau mai ailgyfansoddi sy'n gyfrifol am fersiwn unigryw LlGC 560 klâf a gwan fvm yn annwn / kollais i yr harddlais hwn (yn yn hytrach nag o anun a geir yn y llsgrau, ac eithrio fersiwn Pen 57).
12. m wreiddgoll.
13. Cynghanedd lusg ag f ledlafarog heb ei hateb yn yr odl.
14. mawlbryd Darlleniad Pen 57. Mae'n ddarlleniad anos na mawrbryd y llsgrau eraill.
15. ni'm gwahoddes Darlleniad Pen 57, cymh. Ll 163 ym gwhoddes. Cymerir mai at y ferch y cyfeirir, ond ni'th wahoddes yn ôl mwyafrif y llsgrau, gan gyfeirio at y gog.
16. wtla O'r Saesneg outlaw. I'r 15g. y perthyn yr enghraifft gynharaf a ddyfynnir yn GPC 3738, ond ceir y ffurf ferfol wtlëid gan Iolo Goch, GIG IV.82. Cymerir mai at y gog y cyfeirir, a fu ar herw dros fisoedd y gaeaf, ond gallai ddisgrifio'r bardd yn ogystal. Rhaid cywasgu wtla o'r yn ddeusill er mwyn hyd y llinell.
17. hiraethnych Darlleniad anos Pen 57, sy'n rhoi ystyr amgenach na hiraethwych y llsgrau eraill.
19. gwn ganclwyf Digwydd yr un sangiad yn 79.37 ac 82.3. Mae'r gyfatebiaeth gytseiniol yn anghyflawn dan yr acen.
20. henwi Diau mai gwall yw henw Pen 57 gan fod y llinell sillaf yn fyr. Y ferf a geir yn LlGC 560 ac yn H 26 lle yr ychwanegwyd y cwpled ar ymyl y ddalen; Ll 163 [ ]i.
21–2. Mae'r llsgrau'n gytûn ynglŷn â'r ddwy lythyren gyntaf, ac eithrio M 146 s ag i. N ac A yw'r llythrennau eraill yn ôl Pen 57, LlGC 560 ac, mae'n debyg, Ll 163 [ ] a; cymh. M 146 a ag n. Ond M 161 em ac a; H 26 a Bl e 1 I ac N. Ar sail Pen 57 a'r testunau cysylltiedig mae'n debyg mai Annes yw enw'r ferch, gyda'r llythrennau o chwith. Mae'r enw hwnnw'n ddigon cyffredin yn y 14g. a'r 15g., fel y dengys y mynegeion i Welsh Genealogies P.C. Bartrum. Yn ôl Helen Fulton ar sail H 26, Seina yw'r enw, enw a oedd yn gyffredin, fe ymddengys, ym Mhowys yn ystod y 15g., gw. DGA t. 240.
21. Ef Dyma'r ffurf ar y llythyren E a geir yn Pen 57, er mwyn y gynghanedd lusg. Ond gellid E, fel ym mwyafrif y llsgrau, a'r f ledlafarog yn hefyd heb ei hateb yn yr odl, cymh. 13n uchod.
23. eurchwys Ni welwyd enghraifft arall o'r ffurf gyfansawdd hon. Ai 'dafnau euraid', gwlith yng ngolau'r haul?
25. Darlleniad Pen 57. Diau mai gwall yw llyddwyd y llsgr.; fe'i diwygiwyd i llwyddwyd yn y copïau sy'n deillio ohoni, a rydd gynghanedd lusg. Mae'r ystyr yn rhagori ar y llinell Mae'r arwydd, drwg y'm swyddwyd, sef yr hyn a geir yn y llsgrau eraill ac eithrio Ll 163 moes arwydd drwc im drwc im [sic] kweiriwyd.
26. madws oedd Darlleniad Pen 57; yw ac ym sydd yn y llsgrau eraill.
27. Llinell wythsill. Gwelir ymgais i'w thrwsio yn LlGC 560 aml anerch, ac yn H 26 llwyr annerch, lle y mae'r cwpled wedi ei ychwanegu mewn llaw wahanol.
29. Cyfatebiaeth gytseiniol anghyflawn dan yr acen yn gwn gellwair.
33. oerwynt trumnoeth Darlleniad Pen 57, ac unwaith eto dyma'r darlleniad anos. Mae darlleniad y rhan fwyaf o'r llsgrau, flaenwynt trymnoeth, yn difetha'r gynghanedd lusg rhwng euthum a trum. Mae'n arwyddocaol fod y gair trum wedi ei gadw yn LlGC 560 er bod y llinell wedi ei hail–lunio fel cynghanedd groes: blîn hynt trom blaenwynt trvmoedd.
38. gwestai Gweddai'r ystyr 'ymwelydd', neu'r ystyr fwy difrïol 'cardotyn' a geir yn 31.49 ('Dychan i Rys Meigen').
39–40. Mae darlleniad Pen 57 pennoedd och ir pinn ia sillaf yn brin. Pan oedd yn arwain pìn iâ yw darlleniad y llsgrau eraill, ond anodd egluro'r gystrawen Pan oedd yn ... yn dywod ... Cyfunir y ddau ddarlleniad, felly, gyda'r ymadrodd och ... yn sangiad fel y mae yn Pen 57. Digon cyffredin yw och wedi ei ddilyn gan ferfenw, e.e. 6.58, 81. Ceir disgrifiad tebyg o'r cyffylog yn chwilota am bryfetach a mwydod mewn tomen yn 53.53–4 Ond arwain, durwaith meinffrom, / Y bêr du a bawr y dom, a chymh. hefyd lau 45–6 yn yr un cywydd.
39. pìn iâ Trosiad am big hirfain y cyffylog, cymh. bêr 'picell' yn ll. 43 a'r trosiadau tebyg yng nghywydd 'Y Cyffylog' (53) ac 'Ymddiddan â'r Cyffylog' (52). Cymh. hefyd ddisgrifiad Dafydd ap Gwilym o bibonwy fel Pinnau serthau (54.37).
40. du y dom Cywasger yn ddeusill er mwyn hyd y llinell.
42. Gŵyl y Grog Naill ai 3 Mai pryd y dethlid caffaeliad y Groes, neu 14 Medi pryd y coffeid dyrchafu'r Groes a'i harddangos yn Nghaersalem yn y flwyddyn 629, gw. Fulton, DGA 241. Efallai mai'r ail ddyddiad sydd fwyaf tebygol. Er bod y cyffylog i'w weld, erbyn hyn o leiaf, gydol y flwyddyn, dros yr hydref bydd cyffylogiaid yn cyrraedd o Rwsia a'r Ffindir i dreulio'r gaeaf yn yr ynysoedd hyn, ac mae'r gog i'w gweld rhwng dechrau'r gwanwyn a misoedd Gorffennaf ac Awst.
43. ynfyd Am y gred mai aderyn ffôl, hawdd ei dwyllo oedd y cyffylog, gw. nodyn cefndir rhif 52.
45. Ceir yma awgrym o gynghanedd lusg rhwng llid ac ergydnerth, er nad yw'r odl yn safonol; ergidnerth yw'r sillafiad yn y rhan fwyaf o'r llsgrau, gan gynnwys Pen 57. llid a rydd Pen 57, ond o dderbyn lid / o lid y llsgrau eraill gellid cynghanedd braidd gyffwrdd rhwng ladd a lid.
51. dwg Ailadroddir y ffurf orchmynnol a geir yn y ddau gwpled blaenorol. Yn niffyg yr arddodiad i mae'n rhagori ar dod Pen 57.
cae Esyllt Garlant neu goron o'r math a ddisgrifir yn rhifau 113 ('Yr Het Fedw') a 134 ('Garlant o Blu Paun'), yn dwyn enw cariadferch Trystan; gw. nodiadau cefndir y cerddi hynny. Gofynnir i'r gog ei gludo at y ferch yn arwydd serch, cymh. llau. 25 a 35 lle y mae'r bardd yn holi am arwydd oddi wrth y ferch. Cyfeirir ato'n fynych gan feirdd y 15g. Fe'i defnyddir am gae bedw yn GDID XX.15–18 Lluniau caeau brig gwiail, / Lluniau dwys meillion a dail; / Cloi mwynbeth fal cwlm unben, / Cyswllt waith cae Esyllt wen; cymh. ib. XIX.34. Cymh. hefyd GLl 5.1–4 Tripheth, mawr y'u trahoffir, / A ennyn serch yn ein sir: / Annerch gan oleuferch lân / A chae Esyllt a chusan; GTA CXXXVIII.47–50 Rhoi teganau, mwynau mân, / Rhoi cae Esyllt, rhoi cusan; / Rhoi arwydd Gwen a'i chwennych, / Rhannodd ddyn bob rhinwedd wych. Yn drosiadol golyga drysor neu rywbeth annwyl, cymh. Gutyn Owain am Guto'r Glyn, GGGl CXXIV.36 Swllt yn, a chae Esyllt oedd, a Lewys Glyn Cothi am ei fab, Siôn y Glyn, GLGC 237.38 fy nghae Esyllt, fy nghusan.
52. ferch liwlas Y gog lwydlas yn hytrach na'r gariadferch. H 26 a Bl e 1 Un liwlas wedd loywlas wyllt; M 161 verch liwlas wawd at loywlas wyllt.
53. dyro Testun Pen 57 [ ]o, ond mae'r copïau sy'n deillio ohono yn cadarnhau'r darlleniad. Ceir dwg eto yn y llsgrau eraill.
54. llathrair Unwaith eto, Pen 57 a ddiogelodd y darlleniad anos. Mae lathraidd, sef y ffurf fwy cyfarwydd a geir ym mwyafrif y llsgrau, yn difetha'r gynghanedd. LlGC 560 lathr wawr. Mae'r llinell sillaf yn brin oni ellir cyfrif llythr yn ddeusill; unsill ydyw yn ll. 21 uchod.
55. Darlleniad Pen 57, cymh. Ll 163 [ ]aid fenaid ferch. A dywaid, f'enaid yw'r ferch sydd yn y rhan fwyaf o'r llsgrau.
57. ni'th werthir Yn wahanol i gloc drudfawr a fyddai'n gymharol anghyffredin yn y cyfnod hwnnw (gw. nodyn cefndir rhif 64), nid oes bris ar gân y gog.
60. neawdr Yn nhestun Pen 57 yn unig y cadwyd y cwpled hwn, lle y ceir aneawdr. Fe'i dyfynnir yn GPC 2570 d.g. neodr, neawdr, benthyciad dysgedig o'r Lladin neutrum, 'diryw (ei genedl); heb fod yn weithredol nac yn oddefol ...; heb fod yn wryw na benyw, heb fod y naill na'r llall'. Ystyr ramadegol sydd i'r holl enghreifftiau eraill, gyda'r enghraifft gynharaf c. 1455. Yr esboniad, efallai, yw fod y gog wryw a benyw yn debyg iawn i'w gilydd. Ynteu ai'r ergyd yw na chaiff y gog, swyddoges y goedwig, ei bradychu (sef ei gwerthu) am ei bod yn ffugio anwybodaeth a'i bod, felly, yn ymddangos yn ddiduedd?
63. mwyn o drebl Efallai fod yma chwarae ar y term cerddorol mên a threbl, gw. 154.10n.
65. Ll 163 o daw gwen ... Yr hyn sydd yn y rhan fwyaf o'r llsgrau yw Yno daw / doed gwen yn bennoeth.
67. o berth i berth Gellid o-berth-i-berth gyda'r sillaf i yn acennog. Cymh. 52.27 ('Ymddiddan â'r Cyffylog') a gw. ib. 28n ar o-lwyn-i-lwyn a 118.30n ar o-law-i-law.
anferthol 'Anferth' yma, yn hytrach na 'hyll, afluniaidd'. Dyma'r enghraifft gynharaf yn GPC2 278; i 1588 y perthyn yr enghraifft nesaf.
68. 'n d'ôl ardol yn Pen 57, ond mae'n fwy anodd ei gywasgu er mwyn hyd y llinell. Rhaid cywasgu Minnau a ddo' yn dair sillaf yn rhan gyntaf y llinell.
69. Rhiain Fe'i defnyddir yn gyffredin am y Forwyn Fair, gw. 152.6 a GPC 3065, a dyna'r ystyr a awgrymir gan ar rriain Pen 57; cymh. LlGC 560 am Rhiain. Cyfeiriwyd eisoes at Fair yn ll. 14 uchod. Darlleniad mwyafrif y llsgrau yw fy rhiain, gan bersonoli'r gog fel y gwneir yn ll. 52.