kowydd y gog
1 dydd da yt ygog serchogfwyn
2 ai llais ar ganghenfrig llwyn
3 klogk ydail kligkied alaw
4 kloch aberth y drowsberth draw
5 ple bvost edn prif lednais
6 pa wlad bell plv yw dy bais
7 bvm ynglyn fel dyn dall
8 bedeiroes mewn byd arall
9 bvm glaf a gwan yn anvn
10 kollais fy harddlais fy hvn
11 sefyll dan yr irgyll irwyd
12 myn pedr ni wn pwy ydwyd
13 myfi yw r bardd digrifair
14 mwyn serch bryd myn mowrbryd mair
15 ath yrodd nith wahoddes
16 wtla r tir at eiliw r tes
17 henwa r ddyn ffraeth hiraethwych
18 henw r gymraes walld laes wych
21 s ag e a llythr hefyd
22 i ag n dwg hyny i gyd
23 erchis gwen evrchwys i gwalld
24 danerch dan frig bedwenalld
25 mae r arwydd drwg im swyddwyd
26 madws ym ai mvdes wyd
27 y ddyn llawer annerch a ddwg
28 Fain oedd wyl fwynaidd olwg
29 [53r] hir i byddwn gwn gellwair
30 o frig llwyn yn gorllwyn gair
31 oni ddoeth y byd hagrnoeth hyll
32 Ag od tew a gavaf towyll
33 evthvm gen flaenwynt trymnoeth
34 gida r dail gwiw awdvr doeth
35 mae r arwydd or mawr arail
36 y gog adeiniog or dail
37 kyffylog an serchogfwyn
38 goch westai a ddowsai i ddwyn
39 pan oedd yn arwain pin ia
40 dv r dom yn dywod yma
41 pa bryd y doeth kyw noeth frych
42 gwyl y grog i gil y gwrych
43 ynfyd fv ai anfad fer
44 ysgevlys edn ysgeler
45 gwn i ladd lid ergidnerth
46 gwr a bolld dan gwr yberth
47 dwg hediad deg i hadain
48 dos eilwaith at fanrhaith fain
53 dwg a hed o frig bedlwyn
54 lythr i ferch liathraidd fwyn
51 llateies dwg kae esylld
52 vn liwlas wedd loywlas wylld
55 [53v] a dowaid fenaid ywr ferch
56 o hono fi i hanerch
57 svm klogk mewn perth nith werthir
58 swyddoges gwydd hafddydd hir
61 hed or fedwen ganghenlas
62 ar bren plan garbron y plas
63 mwyn o drebl myn di rybydd
64 i evrloyw deg ar liw r dydd
65 yno daw gwen yn benoeth
66 allan imddiddan yn ddoeth
49 dwg hi dan frig koedwig kyll
50 disgin a lleda desgyll
67 o berth i berth angerthol
68 mine a ddo hyd yno yn dol
69 a thrwy dy nerth di fy rhiain
70 dygwn y ferch deg wen fain
dafydd ap gwilym