â â â Y Draenllwyn
1â â â 'Y draenllwyn glas urddasawl,
2â â â Llety mwyn lle y tyf mawl,
3â â â Mewn dail a rhisg y'th wisgwyd.
4â â â Mab lledrithiog, arfog wyd.
5â â â Mynych y symud maner.
6â â â Maith dy sud, anwylyd Nêr.
7â â â Mwyn yw dy gofl ym Mai,
8â â â Manod liw, gwell no mwnai.
9â â â Dioer eurfodd, dwr arfau,
10â â â Teg fotleiaeth yw'r dur tau.
11â â â Gweli rhyfel gan d'elyn.
12â â â Gwae fi! Ple'r wyt ti? On'd tyn?
13â â â Nid oes yma dy hanner
14â â â Na'th draean, liw sirian sêr.
15â â â Torres, fy nghrair, d'esgeiriau,
16â â â Twrn ffyrnig, a'r tewfrig tau.
17â â â Dywaid, liw cafod ewyn,
18â â â Poen a'th ddug, pwy a wnaeth hyn'.
19â â â 'Ni wn i achos, gwan wyf,
20â â â Dig a briwedig ydwyf,
21â â â Ond y carn-filain, anoeth
22â â â Ymy ddoe, yma a ddoeth
23â â â Â bwyall droedafall draw
24â â â O'm cwr i'm lladd a'm curaw,
25â â â A llusgo fy naill esgair
26â â â Gydag ef,-gwae finne, Fair!-
27â â â A dwyn fy siop a'm topiau
28â â â A'r pigau cain a'r main mau'.
29â â â 'Tyfu cwrel y'th welais.
30â â â Tegach dy dop no siop Sais.
31â â â Tau ofalon, taw, filwr,
32â â â Ti a gai iawn teg i wr:
33â â â Lladd y taeog, a'i grogi,
34â â â Â cherdd cyn farwed â chi'.