Y Draenllwyn
    'Y draenllwyn ir ac urddasol,
    llety dymunol lle y mae clod [iddo] yn amlhau,
    fe'th wisgwyd mewn dail a rhisgl,
4    creadur cyfareddol, yr wyt mewn arfogaeth.
    Bydd [dy] wedd yn newid yn fynych.
    Amrywiol yw dy foddau, un sy'n annwyl yng ngolwg Duw.
    Hyfryd yw dy lwyth ym mis Mai,
8    lliw'r eira mân, gwell [ydyw] nag arian.
    Disglair dy wedd yn ddiau, twr arfog,
    y mae dy arfbais di yn siaced fraith ddeniadol.
    Anaf gan dy elyn mewn rhyfel [a ddaeth i'th ran].
12    Gwae fi! Ym mha le yr wyt? Onid garw [yw hyn]?
    Yma nid oes na'th hanner
    na'th draean [ychwaith], [un o] liw ceirios [a disglair megis y]
		  sêr.
    Torrodd dy goesau, fy nhrysor,
16    a'th frigau trwchus, tro ysgeler.
    Dywed, lliw cawod ewyn,
    poen sydd wedi dy feddiannu, pwy a wnaeth hyn'.
    Ni wn achos [cyfreithiol yn fy erbyn], gwan ydwyf,
20    yr wyf [hefyd] yn ddig ac yn archolledig,
    ond [gwn] i'r dihiryn pennaf ddyfod yma,
    rhyfeddod [oedd hynny] i mi ddoe,
   â'i fwyall a'i choes o bren yr afallen acw 
24    i'm lladd a'm curo o'm cynefin,
    a llusgo un o'm haelodau
    [i ffwrdd] gydag ef (gwae finnau, Fair!) 
    a dwyn fy nwyddau a'm brigau
28    a'm canghennau prydferth a'm cerrig gwerthfawr'.
    'Fe'th welais [cyn hyn] yn creu cwrel.
    Hyfrytach dy frigau na siop Sais.
    Ymdawela, y milwr, blinder sydd i'th ran,
32    fe gei iawndal cymwys i wr [bonheddig]:
    lladd y taeog â cherdd
    [nes ei fod] yn gelain fel ci, a'i roi i'w grogi'.