â â â Yn y Winllan
1â â â Digiais am na chawn Degau:
2â â â Dihun, hael fun, yw'r hwyl fau;
3â â â Dyfod dan wyrddion defyll-
4â â â Bid ei chael-dail bedw a chyll,
5â â â Can hawddfyd, ar hyd y rhiw
6â â â I winllan bun ewynlliw;
7â â â Tuchan yn daer wrth gaer galch
8â â â A griddfan am Eigr ruddfalch.
9â â â Pan glybu bun, harddlun hyd,
10â â â Gwynfan Trystan rhag tristyd,
11â â â Llariaidd y rhoes drwy foes fwyn
12â â â Llef aur ar ei llawforwyn,
13â â â 'Y mae draw mewn anghyflwr
14â â â Yn y winllan gwynfan gwr.
15â â â Myfy a af, mwy ofal,
16â â â Morwyn deg â mirain dâl,
17â â â Drwy wydrin draw i edrych-
18â â â Truan oer mewn tro a nych-
19â â â Pa drychiolaeth, gaeth geithiw,
20â â â Y sydd yn y gwinwydd gwiw.'
21â â â 'Un diriaid, Enid oroen,
22â â â Enaid, em honnaid, ym mhoen.'
23â â â 'Pa un wyd yn penydiaw
24â â â Dy glwyf i mewn ôd a glaw?'
25â â â 'Dy fardd poenedig digus,
26â â â Dewrfawr wyf mewn dirfa rus.'
27â â â 'Dos ymaith rhag dy siomi,
28â â â Dilwydd daith, neu dy ladd di!'
29â â â 'Oernos a welych arnaf,
30â â â 'Y myd aur, i mi od af,
31â â â Oni wypwy', clydwy clod,
32â â â Pwy drechaf, myn Pedr uchod,
33â â â Ai ti ai mi o 'mafael,
34â â â Ai mi ai ti, fy myd hael.
35â â â Glân oedd i'm enaid, o glod
36â â â Fy aur eirian, farw erod.
37â â â Dillwng dy fardd a dwyllwyd
38â â â I mewn, ddyn, i'r man ydd wyd
39â â â Neu ddyred, och! neur dderwyf,
40â â â Yman, ddyn, i'r man ydd wyf.'
41â â â 'Ni wnaf, ddyn truan annoeth,
42â â â Yr un o'r ddau, mau rin ddoeth.
43â â â Pa beth a gais gwr o bell,
44â â â Geirfas dwf, ger fy 'stafell?'
45â â â 'Ceisio heb gur drwy'r mur maen
46â â â Dy weled, loywged liwgaen.'
47â â â 'Pa ddysged neu pa ddisgwyl
48â â â Ydd wyd, y gwas gwiwlas gwyl?'
49â â â 'Dwysgall dyall a'm diaur,
50â â â Disgwyl llun dyn dwysgall aur.'
51â â â 'Pa ryw orllwyn mewn llwyni
52â â â Yn y dail yna wnai di?'
53â â â 'Gorllwyn dyn mwyn, dawn im wyd,
54â â â Nid gorllwyn gwraig y garllwyd!'