| Yn y Winllan | |
| Digiais am na chawn Degau: | |
| Dihun, hael fun, yw'r hwyl fau; | |
| Dyfod dan wyrddion defyll— | |
| 4 | Bid ei chael—dail bedw a chyll, |
| Can hawddfyd, ar hyd y rhiw | |
| I winllan bun ewynlliw; | |
| Tuchan yn daer wrth gaer galch | |
| 8 | A griddfan am Eigr ruddfalch. |
| Pan glybu bun, harddlun hyd, | |
| Gwynfan Trystan rhag tristyd, | |
| Llariaidd y rhoes drwy foes fwyn | |
| 12 | Llef aur ar ei llawforwyn, |
| 'Y mae draw mewn anghyflwr | |
| Yn y winllan gwynfan gŵr. | |
| Myfy a af, mwy ofal, | |
| 16 | Morwyn deg â mirain dâl, |
| Drwy wydrin draw i edrych— | |
| Truan oer mewn tro a nych— | |
| Pa drychiolaeth, gaeth geithiw, | |
| 20 | Y sydd yn y gwinwydd gwiw.' |
| 'Un diriaid, Enid oroen, | |
| Enaid, em honnaid, ym mhoen.' | |
| 'Pa un wyd yn penydiaw | |
| 24 | Dy glwyf i mewn ôd a glaw?' |
| 'Dy fardd poenedig digus, | |
| Dewrfawr wyf mewn dirfa rus.' | |
| 'Dos ymaith rhag dy siomi, | |
| 28 | Dilwydd daith, neu dy ladd di!' |
| 'Oernos a welych arnaf, | |
| 'Y myd aur, i mi od af, | |
| Oni wypwy', clydwy clod, | |
| 32 | Pwy drechaf, myn Pedr uchod, |
| Ai ti ai mi o 'mafael, | |
| Ai mi ai ti, fy myd hael. | |
| Glân oedd i'm enaid, o glod | |
| 36 | Fy aur eirian, farw erod. |
| Dillwng dy fardd a dwyllwyd | |
| I mewn, ddyn, i'r man ydd wyd | |
| Neu ddyred, och! neur dderwyf, | |
| 40 | Yman, ddyn, i'r man ydd wyf.' |
| 'Ni wnaf, ddyn truan annoeth, | |
| Yr un o'r ddau, mau rin ddoeth. | |
| Pa beth a gais gŵr o bell, | |
| 44 | Geirfas dwf, ger fy 'stafell?' |
| 'Ceisio heb gur drwy'r mur maen | |
| Dy weled, loywged liwgaen.' | |
| 'Pa ddysged neu pa ddisgwyl | |
| 48 | Ydd wyd, y gwas gwiwlas gŵyl?' |
| 'Dwysgall dyall a'm diaur, | |
| Disgwyl llun dyn dwysgall aur.' | |
| 'Pa ryw orllwyn mewn llwyni | |
| 52 | Yn y dail yna wnai di?' |
| 'Gorllwyn dyn mwyn, dawn im wyd, | |
| Nid gorllwyn gwraig y garllwyd!' | |