Yn y Winllan
Digiais am na chawn Degau:
di-gwsg, ferch hael, yw fy hwyl[iau];
dyfod dan dafelli gwyrddion
4 (bydded [imi] ei chael) dail bedw a chyll,
gyda phleser, ar hyd y rhiw
i winllan merch o liw ewyn;
tuchan yn daer wrth lys wedi ei wyngalchu
8 a griddfan am [un fel] Eigr urddasol ei grudd.
Pan glywodd [y] ferch, un â chorff hardd ei lun,
gwynfan [fel eiddo] Trystan o dristwch,
yn dyner y rhoes gydag ymddygiad mwyn
12 lef wych ar ei llawforwyn:
'Y mae draw mewn cyflwr gwael
yn y winllan gwynfan gwr.
Myfi a af (mwy o ofid),
16 morwyn deg â thalcen disglair,
i edrych drwy ffenestr wydr draw-
truan oer mewn tro [gwael] a nychdod-
[i weld] pa ddrychiolaeth, gwarchae caeth,
20 sydd yn y gwinwydd gwych.'
'Un anfad, [y ferch â] disgleirdeb Enid,
enaid (gem enwog) mewn poen.'
'Pa un wyt ti [sydd] yn poenydio
24 dy glwyf mewn eira a glaw?'
'Dy fardd llawn poenedigaeth [a] dicllon,
mawr a dewr wyf mewn lle gormesgar rhwystrol.'
'Dos ymaith rhag [iti gael] dy siomi
28 (taith aflwyddiannus) neu dy ladd!'
'Boed iti weld noson oer arnaf,
fy nghariad euraid, [yn peri niwed] imi os af,
oni bai fy mod yn gwybod, diddosrwydd clod,
32 pwy sydd drechaf, myn Pedr uchod,
ai ti ai mi wrth ymgodymu,
ai mi ai ti, fy anwylyd hael.
Byddai'n sanctaidd i'm henaid (oherwydd clod
36 fy anwylyd disglair) farw er dy fwyn.
Gollwng dy fardd a dwyllwyd
i mewn, ferch, i'r man lle yr wyt
neu tyrd (och! rwyf wedi darfod)
40 yma, ferch, i'r man lle yr wyf i.'
'Ni wnaf, ddyn truan annoeth,
yr un o'r ddau (mae gennyf rinwedd ddoeth).
Pa beth y mae gwr o bell yn ei geisio
44 (corff â gair bas) ger fy ystafell i?'
'[Mae'n] ceisio heb boen drwy'r mur o garreg
dy weld, [y ferch] â rhodd ddisglair a gorchudd lliwgar.'
'Pam yr wyt yn myfyrio neu'n disgwyl,
48 y llanc llwydaidd gwych gwylaidd?'
'Dwys a chall yw'r deall fydd yn fy esgusodi,
[rwy'n] disgwyl [i weld] ffurf merch synhwyrol a chall ac
euraid.'
'Pa fath o aros mewn llwyni
52 a wnei di yna yn y dail?'
'Aros merch fwyn (rhodd imi wyt ti),
nid aros gwraig y gwr coeslwyd!'