C 7, 719–20   
    kowydd merch
 
1    Digiais am na chawn degav
2    di hvn hael fvn fvr hwyl fav
3    dyfod dan wrddion defyll
4    bid i chael dail bedw achyll
5    kan hawdd fyd ar hyd y rriw
6    y winllan bvn ewynlliw
7    tvchan yn daer wrth gaer galch
8    a griddfan am eigr rvddfalch
9    pan glybvr fvn harlyn hyd
10    gwynfan trysdan rrag trisdyd
11    llariaidd i rroes drwy foes fyn
12    llef avr ar i llaw forwyn
13    y mae draw mewn anghyflwr
14    yn ywinllan gwynfan gwr
15    myfi a af mwy o ofal
16    morwyn deg amvrain dal
17    drwy wydring draw i edrych
18    trvan oer mewn tro a nych
19    pa drichiolaeth gaeth geithliw
20    y sydd yn y gwinwydd gwiw
21    vn dvriaid eneidrroen
22    enaid em hownaid ymhoen
23    pa vn wyd yn pynydiaw
24    dy glwyf mewn od a glaw
25    dy fardd poenedig ddigys
26    dewr fawr wyf mewn dirfawr rys
27    dos imaith rrag dy somi
28    dilwydd daith nev dy ladd di
29    oernos awelych arnaf
30    y myd awr ym? o daf
31    [720] On i wypwy klydwy clod
32    pwy drechaf myn peder vchod
33    ai ti ai mi o mafael
34    ai mi ai ti ymyd tael
35    glan oedd im enaid o glod
36    fvn avr eirian farw erod
37    gollwng dy fardd a dwyllwyd
38    i mie ddyn ir man i ddwyd
39    nev ddyred och na dderwyf
40    yn y man ddyn ir man iddwyf
41    ni wnaf ddyn trvan anoeth
42    y rrvn or ddav mewn rrin ddoeth
43    po beth a gais gwr o bell
44    oerfas dwf ger fy sdafell
45    keissiaw heb gvr drwyr mvr maen
46    dy weled loywged liwgaen
47    pa ddysged nev pa ddisgwyl
48    i ddwyd y gwas gwiwlas gwyl
49    dwysgall deall am diavr
50    disgwyl llvn dyn dwysgall avr
51    pa ryw orllwyn mewn llwyni
52    yn dy dy dail yn enav di
53    gorllwyn dyn mwyn dawn ym wyd
54    nid gorllwyn gwraig y garllwyd
 
    Dauidd ap glm ai kant