Cywydd o ymddiddan rhwng DG. a merch pan oedd efe dan ei phared hi
1 Digiais am na chawn degau
2 Dihun hael fun yw'r hwyl fau
3 Dyfod dan wyrddion defyll
4 Bid ei chael dael bedw achyll
5 Can hawddfyd ar hyd y rhiw
6 I winllan bun ewynlliw
7 Tuchan yn daer wrth gaer galch
8 A griddfan am eigr ruddfalch
9 Pan glybu bun harddlun hyd
10 Gwynfan trwstan rhag tristyd
11 Llariaidd y rhoes drwy foes fwyn
12 Lef aur ar ei llawforwyn
13 Y mae draw mewn anghyflwr
14 Yn y winllan gwynfan gwr
15 Myfi a af mwyaf ofal
16 Morwyn deg a mirain dail
17 Drwy wydrin draw i edrych
18 Truan oer mewn tro a nych
19 Pa drychiolaeth gaeth geithiw
20 Y sydd yn y gwinwydd gwiw
21 Un diriaid enyd oroen
22 Enaid em honaid 'y mhoen
23 Pa un wyd yn penydiaw
24 Dy glwyf mewn od a glaw
25 Dy fardd poenedig digus
26 Dewr fawr wyf mewn dirfawr rus
27 Dos ymaith rhag dy siomi
28 Dilwydd daith rhag dy ladd di
29 Oernos a welych arnaf
30 Y myd avr i mi od af
31 Oni wypwy clywy clod
32 Pwy drechaf myn Pedr uchod
33 Ai ti ai mi o 'ymafael
34 Ai mi ai ti fy myd hael
35 Glan oedd i'm enaid o glod
36 Fy aur eiriaun farw erod
37 Dillwng dy fardd a dwyllwyd
38 I mewn ddyn i'r man ydd wyd
39 Neu dyred och neu derwyf
40 Yma ddyn i'r man ydd wyf
41 Ni wnaf ddyn truan anoeth
42 Yr vn o'r ddau mae rhai'n ddoeth
43 Pa beth a gais gwr o bell
44 Geirfas dwf gar fy 'stafell
45 Ceisiaw heb gur drwy'r mur maen
46 Dy weled loywged liw gaen
47 Pa ddysged neu pa ddisgwyl
48 Ydd wyf y gwas gwiwlas gwyl
49 Dwysgall deuall am diaur
50 Disgwyl llun dyn dwysgall aur
51 Pa ryw orllwyn mewn llwyni
52 Yn y dail yna wnai di
53 Gorllwyn dyn mwyn dawn ym' wyd
54 Nid gorllwyn gwraig y garllwyd
DG ai cant