|
Ll 3, rhif 966 |
|
| |
Cywydd o ymddiddan rhwng DG. a merch pan oedd efe dan ei phared hi |
| |
| 1 |
Digiais am na chawn degau |
| 2 |
Dihun hael fun yw'r hwyl fau |
| 3 |
Dyfod dan wyrddion defyll |
| 4 |
Bid ei chael dael bedw achyll |
| 5 |
Can hawddfyd ar hyd y rhiw |
| 6 |
I winllan bun ewynlliw |
| 7 |
Tuchan yn daer wrth gaer galch |
| 8 |
A griddfan am eigr ruddfalch |
| 9 |
Pan glybu bun harddlun hyd |
| 10 |
Gwynfan trwstan rhag tristyd |
| 11 |
Llariaidd y rhoes drwy foes fwyn |
| 12 |
Lef aur ar ei llawforwyn |
| 13 |
Y mae draw mewn anghyflwr |
| 14 |
Yn y winllan gwynfan gwr |
| 15 |
Myfi a af mwyaf ofal |
| 16 |
Morwyn deg a mirain dail |
| 17 |
Drwy wydrin draw i edrych |
| 18 |
Truan oer mewn tro a nych |
| 19 |
Pa drychiolaeth gaeth geithiw |
| 20 |
Y sydd yn y gwinwydd gwiw |
| 21 |
Un diriaid enyd oroen |
| 22 |
Enaid em honaid 'y mhoen |
| 23 |
Pa un wyd yn penydiaw |
| 24 |
Dy glwyf mewn od a glaw |
| 25 |
Dy fardd poenedig digus |
| 26 |
Dewr fawr wyf mewn dirfawr rus |
| 27 |
Dos ymaith rhag dy siomi |
| 28 |
Dilwydd daith rhag dy ladd di |
| 29 |
Oernos a welych arnaf |
| 30 |
Y myd avr i mi od af |
| 31 |
Oni wypwy clywy clod |
| 32 |
Pwy drechaf myn Pedr uchod |
| 33 |
Ai ti ai mi o 'ymafael |
| 34 |
Ai mi ai ti fy myd hael |
| 35 |
Glan oedd i'm enaid o glod |
| 36 |
Fy aur eiriaun farw erod |
| 37 |
Dillwng dy fardd a dwyllwyd |
| 38 |
I mewn ddyn i'r man ydd wyd |
| 39 |
Neu dyred och neu derwyf |
| 40 |
Yma ddyn i'r man ydd wyf |
| 41 |
Ni wnaf ddyn truan anoeth |
| 42 |
Yr vn o'r ddau mae rhai'n ddoeth |
| 43 |
Pa beth a gais gwr o bell |
| 44 |
Geirfas dwf gar fy 'stafell |
| 45 |
Ceisiaw heb gur drwy'r mur maen |
| 46 |
Dy weled loywged liw gaen |
| 47 |
Pa ddysged neu pa ddisgwyl |
| 48 |
Ydd wyf y gwas gwiwlas gwyl |
| 49 |
Dwysgall deuall am diaur |
| 50 |
Disgwyl llun dyn dwysgall aur |
| 51 |
Pa ryw orllwyn mewn llwyni |
| 52 |
Yn y dail yna wnai di |
| 53 |
Gorllwyn dyn mwyn dawn ym' wyd |
| 54 |
Nid gorllwyn gwraig y garllwyd |
| |
| |
DG ai cant |
| |