1 Digiais am na chawn degau
2 Dihun hael fun yw'r hwyl fau
3 Dyfod dan wyrddion defyll
4 Bid ei chael dail bedw a chyll
5 Canhawddfyd ar hyd y rhiw
6 Yi winllan bun ewynlliw
7 Tuchan yn daer wrth gaer galch
8 A griddfan am eigr ruddfalch
9 Pan glybu bun harddlun hyd
10 Gwynfan Trystan rhag tristyd
11 llaryaidd y rhoes drwy foes fwyn
12 llef aur ar ei llawforwyn
13 Y mae draw mewn anghyflwr
14 Yn y winllan gwynfan gwr
15 Myfy a af mwy ofal
16 Morwyn deg a mirain dal
17 Drwy wydrin draw i edrych
18 Truan oer mewn tro a nych
19 Pa drycholaeth gaeth geithiw
20 Y sydd yn y gwinwydd gwiw
21 [55v] Vn diriaid enid oroen
22 Enaid em honnaid ym-mhoen
23 Pa un wyd yn penydiaw
24 Dy glwyf y mewn od a glaw
25 Dy fardd poenedig digus
26 Dewrfawr wyf mewn dirfa rus
27 Dos ymaith rhag dy siomi
28 Dilwydd daith neu dy ladd di
29 Oernos a welych arnaf
30 Ymyd aur i mi od af
31 Oni wypwy cludwy clod
32 Pwy drechaf myn pedr vchod
33 Ai ti ai mi o 'mafael
34 Ai mi ai ti fy myd hael
35 Glan oedd i'm enaid o glod
36 fy aur eirian farw erod
37 Dillwng dy fardd a dwyllwyd
38 I mewn ddyn i'r man ydd wyd
39 Neu dyred och neu'r
dorwyf
40 Yman ddyn i'r man ydd wyf
41 Ni wnaf ddyn truan anoeth
42 [56r] Yr vn or ddau mau rin
ddoeth
43 Pa beth a gais gwr o bell
44 Geirfas dwf ger fy stafell
45 Ceisiaw heb gur drwy'r mur maen
46 Dy weled loywged liwgaen
47 Pa ddwysged neu pa ddisgwyl
48 Yddwyt y gwas gwiwlas gwyl
49 Dwysgall dyall am diaur
50 Disgwyl llun dyn dwysgall aur
51 Pa ryw orllwyn mewn llwyni
52 Yn y dail yna wnai di
53 Gorllwyn dyn mwyn dawn i'm wyd
54 Nid gorllwyn gwraig y garllwyd
Da' ap Glm'
Nodiadau
Exr per alium