k. ymddiddan rhwng a bardd ai gariad
1 Digiais am na chawn degan
2 dihun hael fun yw /r/ hwyl fau
3 dyfod dan wrddion defyll
4 bit i chael dail bedw a chyll
5 kan hawddfyd ar hyd y rhiw
6 y winllan bun ewynliw
7 tuchan yn daer wrth gaer glach
8 a gridduan am eigr ruddfalch
9 pan glybu bun harddlun hyd
10 gwynfan trystan rhag tristyd
11 llariaidd i rhoes drwy voes fwyn
12 llef aur ar i llawforwyn
13 i mae draw mywn anghyflwr
14 yn y winllan gwynfan gwr
15 myfy a af mwy ofal
16 morwyn deg a mirain dal
17 drwy wydrin draw i edrych
18 truan oer mewn tro a nych
19 [142] Pa drycholaeth gaeth geithiw
20 ysydd yn y gwinwydd gwiw
21 vn diriaid enid oroen
22 enaid em honnaid ym hoen
23 pa vn wyt yn penydiaw
24 dy glwyf y mewn od a glaw
25 Dy fardd poenedig ddigus
26 dewrfawr wyf mewn dirfa rus
27 dos ymaith rhag dy siomi
28 dilwydd daith neu dy ladd di
29 oernos a welych arnaf
30 ym myd aur i mi od af
31 oni wypwy kludwy klod
32 pwy drechaf ym perd uchod
33 ai ti ai mi o mafael
34 ai mi ai ti fy myd hael
35 glan oedd im enaid o glod
36 fy aur eirian farw erod
37 dillwg dy fardd a dwyllwyd
38 i mewn ddym ir man i ddwyd
39 neu dyred och neu r dorwyf
40 y man ddyn ir man i ddwyf
41 ni wnaf ddyn truan anoeth
42 yr vn or ddau mau rin ddoeth
43 pa beth a gais gwr o bell
44 geirfas dwf ger fy stafell
45 kaissiaw heb gur drwy /r/ mur maen
46 dy weled loyewged liwgaen
47 pa ddysged neu pa ddisgwyl
48 i ddwyd y gwas gwiwlas gwyl
49 [143] Dwysgall duall am diaur
50 disgwyl llun ddyn ddwysgall aur
51 pa ryw or llwyn mywn llwyni
52 yny dail yna wnau di
53 gorllwyn ddyn mwyn ddawn im wyd
54 nid gorllwyn gwraig y garllwyd
dd ap Gwilim