Wy 2, 141–3   
    k. ymddiddan rhwng a bardd ai gariad
 
1    Digiais am na chawn degan
2    dihun hael fun yw /r/ hwyl fau
3    dyfod dan wrddion defyll
4    bit i chael dail bedw a chyll
5    kan hawddfyd ar hyd y rhiw
6    y winllan bun ewynliw
7    tuchan yn daer wrth gaer glach
8    a gridduan am eigr ruddfalch
9    pan glybu bun harddlun hyd
10    gwynfan trystan rhag tristyd
11    llariaidd i rhoes drwy voes fwyn
12    llef aur ar i llawforwyn
13    i mae draw mywn anghyflwr
14    yn y winllan gwynfan gwr
15    myfy a af mwy ofal
16    morwyn deg a mirain dal
17    drwy wydrin draw i edrych
18    truan oer mewn tro a nych
19    [142] Pa drycholaeth gaeth geithiw
20    ysydd yn y gwinwydd gwiw
21    vn diriaid enid oroen
22    enaid em honnaid ym hoen
23    pa vn wyt yn penydiaw
24    dy glwyf y mewn od a glaw
25    Dy fardd poenedig ddigus
26    dewrfawr wyf mewn dirfa rus
27    dos ymaith rhag dy siomi
28    dilwydd daith neu dy ladd di
29    oernos a welych arnaf
30    ym myd aur i mi od af
31    oni wypwy kludwy klod
32    pwy drechaf ym perd uchod
33    ai ti ai mi o mafael
34    ai mi ai ti fy myd hael
35    glan oedd im enaid o glod
36    fy aur eirian farw erod
37    dillwg dy fardd a dwyllwyd
38    i mewn ddym ir man i ddwyd
39    neu dyred och neu r dorwyf
40    y man ddyn ir man i ddwyf
41    ni wnaf ddyn truan anoeth
42    yr vn or ddau mau rin ddoeth
43    pa beth a gais gwr o bell
44    geirfas dwf ger fy stafell
45    kaissiaw heb gur drwy /r/ mur maen
46    dy weled loyewged liwgaen
47    pa ddysged neu pa ddisgwyl
48    i ddwyd y gwas gwiwlas gwyl
49    [143] Dwysgall duall am diaur
50    disgwyl llun ddyn ddwysgall aur
51    pa ryw or llwyn mywn llwyni
52    yny dail yna wnau di
53    gorllwyn ddyn mwyn ddawn im wyd
54    nid gorllwyn gwraig y garllwyd
 
    dd ap Gwilim