Englynion Bardd i'w Wallt
Heddiw y gwelais wrth edrych mewn drych
(a [dyma] reol a wedir heb fantais)
wallt llwyd [sy'n achos] tristwch [ac sy]'n cyhuddo,
4 digalondid dyn, yn llechwraidd y daw.
Daeth i'm gwallt melyn (eiddof fi y mae achos dicter i'm poeni
pan ddêl [imi] atgofion am ieuenctid)
lliw newydd [a] gwahanol brigau llwyd,
8 ac o achos y lliw y mae fy nicter.
Fe wnaeth y cyhuddiad sy'n peri gofid gyffroi atgofion ynof
wrth edrych yn y gwydr di-friw;
y mae'r gwallt gwyn heddiw yn llwyr deimlo
12 hiraeth am ei liw disglair blaenorol.
Lliw aur a feddai fy ngwallt toreithiog,
golygfa faith i ferched ifanc;
heddiw, a llwydni yn bennaf lliw arno,
16 y mae'n meddu ar gyfoeth sy'n ddihoeniad.
Cyfoeth [o wallt] heb lwydni yw blodeuyn [= goreubeth] gwedd,
yn gyflym iawn y terfyna,
- arferol yw mai [mynd yn] llwyd yw trefn natur dyn -
20 yn wallt mawr melyn y gofelir amdano.
Llen felen fel lliw aur oeddet,
gwallt dymunol, golygfa wych;
yn llwyr y'm lletha calon ddewr friw
24 oherwydd dy fod mor llwyd a hyll heddiw!