{Ir henaint vid Indic'}
1 Heddyw y gwelais yn gwiliaw / gwydrin
2 a gwadraith heb dygiaw
3 llwydwallt prudd yn cyhuddaw
4 lledfryd dyn lledrad y daw
5 Doeth i'm gwallt melyn mau lid / i'm poeni
6 pan ddel cof ieuengtid
7 lliw llwydwydd newydd newid
8 ac am y lliw yw fy llid
9 Llidiodd ynof cof cyfedliw / hoedran
10 yn edrych gwydr difriw
11 llwyr y gwyr gwynwallt heddiw
12 lledcynt am ei loywgynt liw
13 Lliw aur a feddai wallt llaweredd / mau
14 maith dremyn rhianedd
15 heddiw pennaf lliw llwydedd
16 llifiant o feddiant a fedd
17 Meddiant heb lwyddiant yw blodeuyn /
pryd
18 prif ebrwydd y terfyn
19 gnawd bid llwyd deddf anwyd dyn
20 en hyddawr wallt mawr melyn
21 Melen aa
orllen mal eurlliw / oeddud
22 eiddun wallt dremyn gwiw
23 llwyr ym gwaisg calon fraisg friw
24 rhac mor llwyd hagr wyd heddiw. Heddiw &c