Owdl Foliant i Ifor Hael
1 Da i rhet i waret ar oror olwyn
2 neu wylan ar hedvor
3 deuwell i rret buddget bor
4 diwyt wyf dy wawt Ifor
5 Os da plethiat mat y mor a hirwlych
6 am herwlong praffangor
7 gwell y plethaf ddewraf ddor
8 gwawt y tafawt yt Ifor
9 Ny thyf kaen llen maen llanw mor rryverthwy
10 rrwyf Arthur neu Ector
11 mygr atteb ddiareb ddor
12 mal y tyf mawl yt Ifor
13 Kyvyt yt hawdd vyt veddiein bor genyf
14 ag annwyl hawddamor
15 kat drychyndarf dduarf ddor
16 kedyrn ofn Kadarn Ifor
21 Neidiwr treisiwr trysor er moliant
22 Normant klud goddiant klod y gwyddor
23 Naddiat rri aergat eirf eurgor Eingl gawdd
24 Nawdd myr arnyvawdd Mair ar Ifor
25 Nerth braisg Erkwlff waisg porffor llathrsiamp
26 Na Nudd oreugamp neddair ragor
27 Neut berth a chyngerth wrth angor derfulas
28 nit bas rhy gafas rywiawg Ifor
29 Ni byddai lle bai ball hepkor arnaw
30 ny byddaf hebddaw parawdlaw por
31 Ny bydd anrregydd un rragor nag uwch
32 ny bu ogyfiwch neb ag Ifor
33 Hardd eiswyt ryd rwyd diddor meddlyn
34 haelwyn Lywelyn wawl gywiwior
35 Heddiw nid ydiw didwyll Ior gwyndal
36 haval hael ddyfal hylwydd Ifor
37 Hawdd ddydd ymrydd rwydd gyngor
38 ddangos hawdd nos hedd agos hoyw eddigor
39 Hawdd ymwrdd eiryf hawddamor beunydd
40 hawddryt bryt brawt ffydd ufydd Ifor
41 Hawdd mawl mal wythdal Ector yndervysg
42 hawdd ffysg dyfr undysg ar dew vronddor
45 Hardd digeirdd i veirdd vawr ddor dariangrwydr
46 hoyw vrynarwr brwydr Hafren oror
47 Hir oesawg vu Noe hardd aesor Vagkwy
48 hwy huawdl o vwy vo hoedl Ifor
Dafydd ap Gwilym ai Kant
19 Ner bryd bydoerydd byddin Ior giwdawd
20 a naf o lygad nef oleugor
21 nerthiad fo efo ar for daearllen
22 nenn y ffurfafen i ffyrf Ifor
Nodiadau
Ychwanegwyd nifer helaeth o ddarlleniadau amrywiol at y copi
hwn, ond gan nad ydynt o gymorth wrth lunio testun nis cynhwyswyd yma.