LlGC 6209, 225   
    Owdl Foliant i Ifor Hael
 
1    Da i rhet i waret ar oror olwyn
2    neu wylan ar hedvor
3    deuwell i rret buddget bor
4    diwyt wyf dy wawt Ifor
 
5    Os da plethiat mat y mor a hirwlych
6    am herwlong praffangor
7    gwell y plethaf ddewraf ddor
8    gwawt y tafawt yt Ifor
 
9    Ny thyf kaen llen maen llanw mor rryverthwy
10    rrwyf Arthur neu Ector
11    mygr atteb ddiareb ddor
12    mal y tyf mawl yt Ifor
 
13    Kyvyt yt hawdd vyt veddiein bor genyf
14    ag annwyl hawddamor
15    kat drychyndarf dduarf ddor
16    kedyrn ofn Kadarn Ifor
 
21    Neidiwr treisiwr trysor er moliant
22    Normant klud goddiant klod y gwyddor
23    Naddiat rri aergat eirf eurgor Eingl gawdd
24    Nawdd myr arnyvawdd Mair ar Ifor
25    Nerth braisg Erkwlff waisg porffor llathrsiamp
26    Na Nudd oreugamp neddair ragor
27    Neut berth a chyngerth wrth angor derfulas
28    nit bas rhy gafas rywiawg Ifor
29    Ni byddai lle bai ball hepkor arnaw
30    ny byddaf hebddaw parawdlaw por
31    Ny bydd anrregydd un rragor nag uwch
32    ny bu ogyfiwch neb ag Ifor
33    Hardd eiswyt ryd rwyd diddor meddlyn
34    haelwyn Lywelyn wawl gywiwior
35    Heddiw nid ydiw didwyll Ior gwyndal
36    haval hael ddyfal hylwydd Ifor
37    Hawdd ddydd ymrydd rwydd gyngor
38    ddangos hawdd nos hedd agos hoyw eddigor
39    Hawdd ymwrdd eiryf hawddamor beunydd
40    hawddryt bryt brawt ffydd ufydd Ifor
41    Hawdd mawl mal wythdal Ector yndervysg
42    hawdd ffysg dyfr undysg ar dew vronddor
45    Hardd digeirdd i veirdd vawr ddor dariangrwydr
46    hoyw vrynarwr brwydr Hafren oror
47    Hir oesawg vu Noe hardd aesor Vagkwy
48    hwy huawdl o vwy vo hoedl Ifor
 
    Dafydd ap Gwilym ai Kant
 
19    Ner bryd bydoerydd byddin Ior giwdawd
20    a naf o lygad nef oleugor
21    nerthiad fo efo ar for daearllen
22    nenn y ffurfafen i ffyrf Ifor
 
    Nodiadau
    Ychwanegwyd nifer helaeth o ddarlleniadau amrywiol at y copi hwn, ond gan nad ydynt o gymorth wrth lunio testun nis cynhwyswyd yma.