BL 14986, 70r–70v   
    owdl i ifor hael
 
1    Da i Red i wared ororor yr olwyn
2    Nevr wylan o rydvor
3    Devwell y Red bvddged bor
4    Diwyd wyf dy wawd ifor
 
5    Os da plethiad mad y mor ai hirwlych
6    wrth herwlong raff angor
7    Gwell y plethaf ddewraf ddor
8    Gwawd y tavawd yt ivor
 
13    Kyvyd yt hawdd vyd vadien bor gennyf
14    Ac amyl hawdd ddamor
15    Kad ddyrchryndarf ddewraf ddor
16    Kedyrn ofn kadarn ifor
 
9    Ni thyf Kaen lle maen mewn llanw mor Ryverthwy
10    Rwyf arthvr nevr egtor
11    mygr ateb ddiareb ddor
12    mal y tyf mawl yt ivor
 
17    Ner bryd byd wryd bedwarior gwyndawd
18    A naf o logawd nevol vgor
19    Nerthiad vo yvo ar vor dwy vowrlenn
20    Nenn y ffvrf=vaven i ffyrf ivor
23    Naddiad arf aergad eirf ar gor
24    [71r] Nawdd mvr a Rwyvawdd mair ar ivor
25    Nawdd braisc erkwlff waisc wisc borffor ssiamp
26    am vdd orevgamp meddai ragor
27    Nev berth a chyvnerth vwch angor ddeifr blas
28    Nid bas Rygavas Rowioc ivor
21    Newidiwr trwsiwr trysor ir moliant
22    Normant klvd goddiant klod a gwyddor
29    Ni byddai lle bai bell heb gor anaw
30    Ni byddaf hebddaw barodlaw bor
31    Ni bydd anRegydd vn Ragor nac vwch
32    Ni bv ogyvvwch neb ac ivor
33    Hardd silldydd rydd rrwydd ddidor meddlyn
34    Helmyn lywelyn wawl gychwyn mor
35    Heddiw nid ydiw didwyll ior gwyndal
36    Haval hval ddyval hylwydd ivor
37    Hawdd ddydd ef a rydd rwydd gyngor ddangos
38    hawdd nos hedd agos hoyw eddigor
39    hawdd ymwrdd y mwrdd hawdd ddamor bevnydd
40    Hawdd vydd brawd ffydd vvydd ivor
41    [71r] Hawl mawl am wychdawl echdor ynhervysc
42    Hardd ffysc deifr vilddysc ar dew vronddor
43    Heliais a chedwais a chyvor ddirfing
44    Hawl da di gyving haeldec ivor
45    Heirdd ddigeirdd i veirdd vowrddor darianddwr
46    Hoyw vraenarwn havren oror
47    Hir oessoc vv noe hoyw rasor vakwy
48    Hwy hvawdl ovwy vo hoedl ivor
 
    Dd ap Gwilym ai kant