Moliant Ivor hael
1 [ ]a rred i wared oror yr olwyn
2 nevr wylan ir dyfyn vor
3 dev well y red bvddged bor
4 diwyd wy dy wawd Ivor
5 Osta plethiad mad y mor ai hirwlych
6 wrth herw long raff angor
7 Gwell y pletha ddewraf ddor
8 Gwawd y tavod yt Ivor
13 kyvyd yt hawdd vyd vadain bor genyd
14 Ag annwyl hawddamor
15 kad ddychryn darff ddewra ddor
16 kedyrn ofn kadarn Ivor
9 Nithyf kaen lle maen llanw mor rryverthwy
10 rrwyf Arthvr nev ector
11 mygyr ateb ddiareb ddor
12 mal y ty mawl yt Ivor
17 Ner byd bydwrid bedwar gwndawd
18 anef o lygawd nev olygor
19 nerthiad fo efo ar fowrdwy fowrlen
20 nen y ffyrfvafen i ffyryf ivor
23 Naddiad arf aergad eirf ar gor englawdd
24 nawdd mvr a rwyfawdd mair ar Ivor
25 nawd braisk erkwfl waisc wisci
borffor siamp
26 anvdd orevgamp naddai ragor
27 Nev berth achyngerth angor deifrblas
28 ni bas Rygafas rrowioc Ifor
21 newidiwr trwsiwr trysor moliant
22 normant klvd goddiant klod egwyddor
29 Ni byddai lle bai bell heb gorav
30 ni bydda hebddaw beredlaw bor
31 ni bydd anrregydd vn rragor nag vwch
32 ni bv ogyfiwch neb ag Ifor
33 Hardd silldydd y sydd rrydd rrwydd ddiddor gyngor meddlyn
34 helm lywelyn wawl mynychddor
35 heddiw nididiw didwyll Ior gwyndal
36 hval hael ddyfal hylwydd Ifor
37 [88r] Hawdd ddydd ef ai rrydd rrwydd ddiddor ddangos
38 hawdd nos hedd agos hovw eddigor
39 hawdd wr ym ymwrdd hawdd amor bevnvdd
40 hawdd fyd bryd brawd ffydd vfvdd Ivor
41 Hawl mawl amwychdawl Ector yn hervysg
42 hardd ffyst deirf filddysc ar dew vronddor
43 heliais achevais achyvor ddvrfring
44 hawl da di gyfing haeldeg Ivor
45 Heirdd ddigeirdd I veirdd vowrddor ariangrwydr
46 hovw vranarfrwdyr hafren oror
47 hir oesawg fv Noe hovw rasawr vakwy
48 hwy hvawdl ofwy vo hoedl Ivor
dauidd ap gwilym ai kant